Pod Jomec Cymraeg

Pod Jomec Cymraeg

By Jomec Cymraeg/Y DarlledwyrArtsVisual Arts
Download on the App Store

Pod Jomec Cymraeg episodes

  • Pod Jomec Cymraeg 32 Dafydd Thomas

    Yn y bennod hon Steff Leonard sy’n astudio Cymraeg a newyddiaduraeth sy’n holi cynhyrchydd rhaglen deledu Sgorio Dafydd Thomas. 

    Mae Dafydd wedi cynhyrchu rhai o raglennu pêl-droed mwyaf yng Nghymru dros y degawd diwethaf, a dyma fe yn rhannu atgofion o'r cyfnod yna, yn ogystal â rhannu cyngor i unrhywun sydd eisiau gweithio yn y diwydiant.

    31 min
  • Pod Jomec Cymraeg 31 Elen Davies

    Yn y bennod hon Angharad Samuel sy’n astudio Cymraeg a newyddiaduraeth sy’n holi’r newyddiadurwraig Elen Davies.

    Mae Elen yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn rhan o dîm cynhyrchu ITV Wales. Yn y sgwrs yma, mae’n trafod gweithio fel newyddiadurwraig ar raglennu 'Y Byd Yn Ei Le' ac 'Y Byd ar Bedwar', ei phrofiadau yn JOMEC, a'r daith o fod yn fyfyrwraig i'r byd newyddiadurol.

    37 min
  • Pod Jomec Cymraeg 30- Tomos Evans

    Yn y bennod hon, Beth Williams, sy’n astudio Saesneg a Newyddiaduraeth, sy'n holi Tomos Evans.

    Yn gyn-fyfyriwr JOMEC a chyn-olygydd papur y brifysgol Gair Rhydd, mae Tomos bellach yn gweithio fel newyddiadurwr digidol ar gyfer platform digidol newydd S4C. Yn y sgwrs hon, mae Tomos yn trafod dechrau ei yrfa yng nghanol pandemig, y mathau o straeon sydd yn ei ysbrydoli e, a'i safbwynt ar ddyfodol newyddiaduraeth.

    24 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 29- Llio Maddocks

    Awdur rhestr fer gwobr ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda'i nofel Twll Bach yn y Niwl, Llio Maddocks yn trafod popeth o gydsyniad rhyw i instagerddi ac ymateb ei mam i'w gwaith. Lois Campbell sy'n cael tips sgwennu, ac yn clywed barn Llio am ddyfodol llenyddiaeth Gymraeg a'r angen i gynnwys mwy o brofiadau LGBTQI + a phobl liw.

    29 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 28 - Joseph Gnabo a Catrin Jones

    CYMRAEG YN Y PAFILIWN : Gwersi Cymraeg drwy’r Arabeg yn cael ei gynnig am y tro cyntaf yn Grangetown! Nel Richards fu'n holi’r athro, Joseph Gnabo a’r trefnydd o Brifysgol Caerdydd, Catrin Jones. Yn y pod hwn, mae Nel yn clywed sut i ffoadur o Arfordir Ifori ddysgu Cymraeg a pharatoi i ddysgu'r iaith i eraill drwy gyfrwng yr iaith Arabeg yn un o ardaloedd mwyaf amlddiwylliannol y brifddinas

    15 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 27- Fflur Dafydd

    Yn y pod arbennig hwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod 2021, yr awdures a'r dramodydd Fflur Dafydd sy'n siarad a Rhiannon Jones. O gyfrinachau creu golygfeydd nwydus yn 'Yr Amgueddfa' yn ystod cyfnod o ymbellhau cymdeithasol i tips am sut i lwyddo fel awdur a'i barn am gynhyrchiadau teledu dwy-ieithog - mae Fflur yn datgelu'r cyfan. 

    21 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 26- Connagh Howard

    I gyd-fynd â takeover Llais Heb Faes 2021 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿dyma drydedd bodlediad y gyfres ⚡️

    Yn y bennod hon, Alyssa Upton sy’n cyfweld a Connagh Howard, un o sêr y gyfres hynod boblogaidd Love Island. O drafod pynciau ymysg ei brofiad yn y villa yn Ne Affrica at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Wrth i Connagh cofio nôl at ei dyddiau yn chwarae’r delyn a cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod. Gan beidio anghofio rhagfynegiad Connagh o bwy fydd yn ennill y gyfres eleni? 🤔

    16 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 25 - Label Recordio I Ka Ching

    Dyma'r ail bodlediad ar gyfer Llais y Maes 2021.

    Sara Dylan yn cyfweld a Branwen Haf Williams i drafod label recordio I Ka Ching yn dathlu Penblwydd yn ddeg oed, gan edrych yn ôl ar rai o berfformiadau Gig y Pafiliwn 2021. Byddwn yn trafod yn union beth yw gwir gost cynhyrchu cerddoriaeth newydd i fandiau Cymru yn ogystal â thrafod beth yw dyfodol prynu a gwerthu cerddoriaeth yng Nghymru. Dysgwn am rai o uchafbwyntiau Branwen yn ystod ei chyfnod yn gweithio ar y label. Gwrandewch i glywed mwy....

    17 min
  • Pod JOMEC Cymraeg 24 - Manon Steffan Ros

    🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎙TAKEOVER LLAIS HEB FAES 2021🎙🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

    Yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, mae tîm cynhyrchu prosiect Llais Heb Faes 2021 yn cymryd drosodd Pod Jomec Cymraeg. 

    Yn y rhifyn hwn, mae Beca Nia, un o ohebwyr Llais Heb Faes 2021 yn holi un o awduron Cymraeg fwyaf gwerthfawr Cymru: Manon Steffan Ros. O drafod pryderon llenorion Cymraeg hunangyflogedig hyd at drafod pa mor ddigonol yw’r sylw a dderbynia menywod ym myd llenyddiaeth Gymraeg - a oes angen herio rhai sylwadau a damcaniaethau cynulleidfaoedd eang…?

    29 min
  • Pod Jomec Cymraeg 23 Sion Jobbins

    Yn y bennod hon Ben Davies sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Sion Jobbins. 

    Sion yw Cadeirydd Yes Cymru, mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Sefydlwyd Yes Cymru ym 2014 ac yn ddiweddar mae'r aelodaeth wedi tyfu yn sylweddol. Yn y podlediad yma, mae Ben a Sion Jobbins yn trafod be’  sydd tu ôl i’r tyfiant yma, strategaethau cyfathrebu'r mudiad, a rôl y cyfryngau cymdeithasol wrth edrych i’r dyfodol.

    30 min

About Pod Jomec Cymraeg

From the publisher's feed

Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.

More shows like Pod Jomec Cymraeg

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,028 Listeners

Yr Hen Iaith by Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

0 Listeners