
Sign up to save your podcasts
Or


Drwy gydol wythnos Eisteddfod T mae ein myfyrwyr wedi bod yn rhannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol @JOMEC Cymraeg sy’n edrych ar fywyd Cymraeg yn y brifysgol.
Mae strategaeth newydd i’r Gymraeg eisoes wedi cael ei lansio, ond be mae’n olygu i fyfyrwyr? Dyma Nel Richards yn holi’r Athro ac aelod o dîm uwch rheoli Prifysgol Caerdydd, Damian Walford Davies.
Yn y bennod hon Beca Nia sy’n astudio Cymraeg a newyddiaduraeth sy’n holi’r newyddiadurwraig Megan Davies.
Mae Megan yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn llais cyfarwydd yn y BBC. Yn y sgwrs yma, mae’n trafod gweithio gyda Vogue ym Mharis, ei barn ar 'cancel culture' a pheryglon cyfryngau cymdeithasol.
Yn y bennod hon Matthaus Bridge sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Iestyn George.
Mae Iestyn yn gyn newyddiadurwr gyda'r NME a GQ, ac erbyn hyn yn ddarlithydd y cyfryngau ym Mhrifysgol Brighton. Yn y 90au buodd e’n gweithio gyda bandiau mwyaf Cymru, gan gynnwys y Manic Street Preachers.
I gyd-fynd gyda’n modiwl 'Yr Ystafell Newyddion', dyma Iestyn George yn trafod creu cynnwys o’r byd roc a roll.
Yn y bennod hon Lowri Davies sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Naomi Williams, un o gyfarwyddwyr Positif Cymru.
Positif yw’r tîm mwyaf yng Nghymru o arbenigwyr materion cyhoeddus a darparwyr cyngor cyfathrebu.
Erbyn hyn, mae gan Naomi 10 mlynedd o brofiad yn gweithio i’r cwmni, a dyma hi’n trafod ei gyrfa yn y maes.
Yn y bennod hon, Elen Hall sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth sy’n holi’r newyddiadurwraig a chyflwynydd chwaraeon Catrin Heledd. Ar ôl gwneud cwrs ôl-radd Darlledu yn JOMEC aeth Catrin i weithio gyda BBC Cymru. Erbyn hyn ma’ ganddi bron i ugain mlynedd o brofiad yn gohebu ar y radio a theledu, gan gynnwys rhaglen Scrum V. Ond heddiw, ein tro ni yw e i ofyn y cwestiynau iddi hi.
Yn y bennod hon Lowri Powell a Steffan Leonard sy'n holi Aled ap Dafydd.
Aled yw cyfarwyddwr strategaeth wleidyddol a materion allanol Plaid Cymru. Cyn hynny roedd Aled yn gweithio i'r BBC am dros 20 mlynedd, yn gyntaf fel gohebydd Chwaraeon ac yna ohebydd gwleidyddol, ac felly mae fe'n ddelfrydol i drafod y perthynas rhwng y byd gwleidyddol a'r cyfryngau yng Nghymru gyda myfyrwyr JOMEC.
Yn y bennod hon Gruff Edwards a Lois Campbell sy’n holi cyn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Yn aelod seneddol i'r Blaid Lafur ym mhae Caerdydd ers 1999, mae Carwyn Jones wedi penderfynu peidio sefyll yn etholiad Cymru fis nesaf.
I gyd fynd gyda'n modiwl 'Cymru: Y Senedd, Y Straeon a’r Spin', dyma Lois a Gruff yn trafod y tirlun gwleidyddol a chyfryngol gydag un o ffigyrau mwyaf blaenllaw yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
Yn y bennod hon Tirion Davies a Rhodri Davies sy’n holi'r newyddiadurwr Gwyn Loader. Gwyn yw prif ohebydd rhaglen Newyddion S4C. Cyn hynny roedd e’n gweithio i’r Byd ar Bedwar yn gohebu o rai o wledydd perygla’r byd. Dyma Gwyn yn rhannu ei brofiadau o weithio o dan amgylchiadau heriol gyda myfyrwyr JOMEC Cymraeg.
Yn y bennod hon mae Jessica Davies, cyflwynydd, model a dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol yn sgwrsio gyda Molly Sedgemore, myfyrwraig Newyddiaduraeth a Chyfathrebu.
Yn y rhifyn yma, y newyddiadurwr, cyflwynydd a sylwebydd gwleidyddol Guto Harri sy’n ymuno â Lois Campbell, myfyrwraig Cymraeg a Newyddiaduraeth.
From the publisher's feed

2,028 Listeners

0 Listeners