Pod Profi

Pod Profi

By Menter Gorllewin Sir GârEducationSelf-Improvement
Download on the App Store

Pod Profi episodes

  • #23 Meirion Jones; Cyngor Sir Gar; Gwasanaethau Cyhoeddus
    Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr lleol mwyaf gyda thua 8,000 o staff. Mae'r prif adrannau yn cynnwys; y Prif Weithredwr, Cymunedau,
    Gwasanaethau Corfforaethol, Addysg a Phlant, Seilwaith ac Adeiladu.
    Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynlluniau ar gyfer prentisiaid. Fel prentis, byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl rydych chi'n hyfforddi i'w gwneud, yn cwblhau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn ennill cyflog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a fydd yn eich cefnogi i ennyn profiad a dysgu am y swydd. Mae yna 5 lefel o brentisiaethau. Mae rhain yn cynnwys: Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaenol, Lefel 3 - Prentisiaeth, Lefel 4/5 - Prentisiaeth Uwch, Lefel 6 - Prentisiaeth Gradd. Mae'r lefel yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Mae modd i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ddilyn prentisiaeth, nid oes uchafswm o ran oedran ond mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau tuag at eich hyfforddiant oherwydd byddwn ni'n talu'r costau.
    Mae ein holl rolau, gan gynnwys prentisiaethau a rolau graddedigion yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan swyddi, a bydd angen i chi wneud cais ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif cyn gwneud eich cais.
    Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddysgu amdanom ni yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chael profiad o sut rydym yn gweithio Gall unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) wneud cais am brofiad gwaith di-dâl.
    20 min
  • #22 Caryl; Yr Atom; Elusennau a'r Trydydd sector
    Canolfan Gymraeg Caerfyrddin yw’r Atom. Mae croeso i chi alw heibio am glonc, ymuno mewn yn ein gweithgareddau, llogi ystafell ar gyfer cyfarfod neu digwyddiad neu ymweld gyda’n tenantiaid. Mae yna drawsdoriad o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn Yr Atom yn wythnosol gan gynnwys Cylch Meithrin Myrddin sy’n rhedeg bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener. Drwy gydol y flwyddyn rydym yn cydweithio’n agos iawn gyda phartneriaid er mwyn trefnu lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau er mwyn rhoi’r cyfle i bawb o bob oed i ddod i ymarfer a defnyddio ei Cymraeg. Os am fwy o wybodaeth, cofiwch gysylltu gyda ni! The Atom is Carmarthen's Welsh Centre. Feel free to pop in for a chat, join in on our activities, hire a room for a meeting or event or visit our tenants. There is a cross-section of events and meetings at The Atom on a weekly basis including Cylch Meithrin Myrddin which runs every morning Monday to Friday. Throughout the year we work very closely with partners to organise a host of events and activities to give everyone of all ages the opportunity to come and practise and use their Welsh. If you want more information, please contact us Ebost – [email protected] Rhif ffôn – 01267 225131 Facebook - @yratom Instagram - @yr_atom Twitter - @yr_atom
    27 min
  • #21 Sian Spencer; Llawrydd; Hamdden a Thwristiaeth
    Podlediad Cymraeg gyda Siân Spencer | A Welsh podcast with Siân Spencer

    Mae Siân Spencer wedi ei lleoli yng Nghastell Newydd Emlyn ac yn Hyfforddwr Personol sy’n arbenigo mewn Hyfforddi Menywod, Menopos a cholli braster. Mae hi’n hyfforddi cleientiaid un i un ac yn gweithio 6 diwrnod yr wythnos. Gyda’i gilydd mae hi a’i chleientiaid wedi adeiladu cymuned o fenywod cryf, hyderus a gwych. Mae hi hefyd yn hyfforddi cleientiaid ar-lein felly mae hi’n creu rhaglen hyfforddi a maeth yn ddibynnol ar eu nod. Ond yn fwy na hynny, mae hi’n eu hyfforddi yn ddyddiol o gwmpas eu ffordd o fwy a rheoli straen a’u tywys trwy eu siwrnai iechyd a ffitrwydd.
    Siân Spencer is a Personal Trainer slash Coach who specialises in Female Training, Menopause and Fat Loss and is based in Newcastle Emlyn. She trains clients on a 1-2-1 basis 6 days a week and together they have built a community of wonderful, like-minded, strong and confident women. She also coaches clients remotely via Online Training whereby she programme their training and nutrition dependent on their goals, but more than that, she coaches them daily around their lifestyle and stress management, and help them navigate their way through their health and fitness journey.
    18 min
  • #20 Myles; National Grid; Manufacturing and Engineering
    Podlediad Saesneg gan Myles o National Grid | An English podcast with Myles National Grid

    Mae National Grid yn gwmni ynni sy’n gweithredu yn y DU ac UDA. Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu miliynau o bobl â'r ynni y maent yn ei ddefnyddio. Rydym yn galluogi'r arloesedd sy'n trawsnewid y system ynni. Maent yn berchen ar y rhwydwaith trosglwyddo trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod trydan yn cael ei gludo’n ddiogel ac yn effeithlon o’r man lle caiff ei gynhyrchu i’r man lle mae ei angen. Mae’r Gweithredwr System Drydan yn fusnes ar wahân yn gyfreithiol, yn cydbwyso cyflenwad a galw i sicrhau bod gan gartrefi a busnesau ym Mhrydain Fawr y trydan sydd ei angen arnynt 24/7.

    National Grid is an energy company operating in the UK and the US. We play a vital role in connecting millions of people to the energy they use. We enable the innovation that is transforming the energy system. They own the high-voltage electricity transmission network in England and Wales. We’re responsible for making sure electricity is transported safely and efficiently from where it's produced to where it's needed. The Electricity System Operator is a legally separate business, balancing supply and demand to ensure homes and businesses in Great Britain have the electricity they need 24/7.
    22 min
  • #19 Carys Eleri; Llawrydd; Diwydiannau Creadigol a Digidol
    Podlediad Cymraeg gan Carys Eleri | A Welsh podcast with Carys Eleri

    Mae Carys yn actores a chantores, awdures, cyfansoddwraig a chyflwynydd. Mae ei sioe gomedi gyntaf wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol. Enwebwyd hi ddwywaith am wobr BAFTA Cymru. Mae hi wedi ymddangos mewn nifer o sioeau theatr a teledu yn y Gymraeg a Saesneg gan gynnwys Parch, Pobol y Cwm a Save Our Cinema. Mae hi’n gantores gaboledig sy’n canu mewn amryw o arddulliau gwahanol. Cyhoeddwyd ei hunangofiant 'Dod Nôl At fy Nghoed' yn 2021 ac mae’n seiliedig ar ei cholled pan bu farw ei thad o Glefyd Motor Neurone yn 2018 a’i ffrind gorau i gancr y flwyddyn ganlynol.

    Carys is a Welsh actress and singer, writer, composer and presenter. Her debut comedy show won her many accolades. She is twice BAFTA Cymru nominated for Best Actress and Best Presenter. She has worked extensively in theatre and television in Welsh and English including Parch, Pobol y Cwm and Save Our Cinema. She is an accomplished singer singing in many different styles. Her book 'Dod Nôl At fy Nghoed' (To return to my trees) was released in 2021, it is autobiographical and focuses on the loss of her father to Motor Neurone Disease in 2018 followed by her best friend to pancreatic cancer in 2019.
    32 min
  • #18 Sioned; Y Bartneriaeth Awyr Agored; Hamdden a Thwristiaeth
    Podlediad Cymraeg gyda Sioned o'r Bartneriaeth Awyr Agored | A Welsh podcast with Sioned from The Outdoor Partnership.

    Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill yn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ein strategaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf yw: ‘Gwella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored’. Sefydlwyd y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2004 gan ddwyn mudiadau sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio’n effeithiol yn y sector awyr agored a rhannu’r un weledigaeth. Ein bwriad yw i wella:
    •iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl,
    •yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth),
    •y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored,
    •cymryd rhan ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy.
    Mae ein prosiectau helaeth yn rhoi cyfleoedd i drigolion lleol ym mhob un o’n ardaloedd, o bob cefndir, gymryd rhan yn yr awyr agored drwy raglenni ysgol, clybiau cymunedol, gwirfoddoli a rhaglenni gwaith.
    The Outdoor Partnership work to support the people of Wales and other UK areas to take up outdoor activities as a life-long pursuit. Our vision for the next 10 years is: ‘Enhancing people’s lives through outdoor activity’. The Outdoor Partnership was established in 2004 bringing public, private and third sector organisations together to work effectively in the outdoor sector with a common vision. Our aim is to enhance:
    •people’s physical and mental health and wellbeing,
    •the economic return (including employment),
    •the social value through outdoor activity,
    •grassroots participation in activities such as walking, cycling, climbing, canoeing, paddleboarding, sailing, mountain biking, and many more.
    Our numerous projects provide opportunities for local residents in all our areas, from all walks of life to become involved with the outdoors through school’s programmes, community clubs, volunteering and employability programmes.
    20 min
  • #17 Rhys; Tregroes Waffles; Bwyd ac Amaeth
    Podlediad Cymraeg gyda Rhys o Tregroes Waffles | A Welsh podcast with Rhys from Tregroes Waffles

    Lleolwyd Tregroes Waffles yn Nhe-Orllewin Cymru. Rydym wedi bod yn cynhyrchu Waffles yn yr ardal ers bron i 40 mlynedd gan ddefnyddio y cynhwysion gorau. Erbyn hyn mae'r gymuned leol yn adnabod ein cynnyrch fel rhan annatod o'r ardal. Fe ddechreuodd popeth nôl ym 1983. Ar ôl iddo bobi cyflenwad ffres o waffls yn ei gartref ym mhentref bach Tregroes, gwynebodd Kees Huysmans yr oerfel ar Noson Tân Gwyllt. Gyda haearn waffl a stondin marchnad o dan ei gesail aeth ati i argyhoeddi pobol Rheilffordd Henllan o’i rysait newydd. Roedd hi’n noson annisgwyliedig o lwyddiannus, a dyna lle ddechreuodd y cwmni. Ers hynny mae’r cwmni wedi ehangu gan fynd o nerth i nerth. Newidiwyd strwythur y cwmni yn 2015, penderfynodd y teulu i werthu 10% o’r cyfranddaliadau bob blwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn diogelu dyfodol y busnes ac mae'r cyfrifoldeb o ofalu am y gweithwyr yn nwylo'r ymddiriedolwyr. Mae’r cwmni erbyn hyn yn gwerthu yn fyd-eang ac yn gwerthu eu 6 cynnyrch unigryw i siopau amrywiol ar draws y DU. Erbyn hyn yr unig amser rydym yn gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd yw yn ystod y Sioe Frenhinol pan y cawn gyfle i weld wynebau cyfarwydd ein cwsmeriaid ffyddlon yn flynyddol. Mae’r farchnad o fewn Y Deyrnas Unedig yn tyfu’n gyson ac mae’r gystadleuaeth yn dwyshau wrth i’n cystadleuwyr fewnforio eu cynnyrch hefyd. Ni’n falch iawn bod Tregroes Waffles wedi tyfu’n fusnes llwyddiannus erbyn hyn.

    Tregroes Waffles is based in the Teifi Valley, West Wales, where we bake our great Waffles. We have been producing Waffles in the area for nearly 40 years using only the best ingredients, and they have become a proud part of the local community. It all started back in 1983. Kees Huysmans, freshly arrived from Holland and armed with his waffle iron and market stall, braved the cold on Bonfire night and took his adapted stroop waffle recipe to the people of Henllan Railway to be tested. It was a surprisingly successful night, and it marked the beginning of the Tregroes Waffles story. Since then, the company has evolved and gone from strength to strength. The structure of the company changed in 2015, the family will sell 10% of shares to the trust every year for the next ten years, thereby safeguarding the future of the business in a structure where trustees are required to act in the interest of the beneficiaries. By now, the company sells their 6 products globally and throughout the UK. Once a year we return to our roots, selling waffles directly to our customers at the Royal Welsh Show where we often meet up with many familiar faces – our most loyal customers. The market in the UK is constantly growing for our products, with greater competition from imported products. Tregroes Waffles clearly has a strong selling point in this regard, as the only UK baked waffle: we are very proud of our product and we are constantly working to ensure that our Waffles are the best they can be.
    33 min
  • #16 James; Llandysul Paddlers; Leisure and Tourism
    Podlediad Saesneg gyda James | An English podcast with James

    Mae Llandysul Paddlers wedi bod yn weithredol ers 1984 fel canolfan a chlwb gweithgareddau awyr agored. Mae’r podlediadau yma wedi eu recordio gan 3 o’r prif hyfforddwyr yn y ganolfan sef Gareth, James a Joey. Maen nhw wedi ceisio rhoi trosolwg o weithio yn y ganolfan a sut i weithio yn yr awyr agored. Mae’r clwb a’r ganolfan wedi ei lleoli yng Ngorllewin Cymru felly os ydych chi eisiau dysgu mwy am beth ni’n ei wneud o ddydd i ddydd, dyma’r podlediad i chi. Am fwy o fanylion am Llandysul Paddlers cymerwch olwg ar ein gwefan - www.llandysul-paddlers.org.uk ffoniwch ar 01559363209 neu e-bostiwch [email protected].

    Llandysul paddlers has been running since 1984 as a Club and Outdoor activities centre. These podcasts have been recorded by three of the main instructors at the site Gareth, James and Joey. They have tried to give an insight into working at the Paddlers centre and how to go about working in the outdoors. The club and Centre are based in West Wales so if you want to hear what the team have been up to over the years this podcast is for you. For further information on Llandysul Paddlers just take a look at the website – www.llandysul-paddlers.org.uk or give them a call on 01559363209 or email [email protected].
    21 min
  • #14 Ffion; Mentera; Bwyd ac Amaeth
    Podlediad Cymraeg gyda Ffion o Menter a Busnes | A Welsh podcast with Ffion from Menter a Busnes

    Mae Menter a Busnes yn arwain y ffordd er mwyn sicrhau datblygiad economaidd parhaus yng Nghymru. Maent yn cefnogi unigolion, grwpiau a busnesau bach a chanolig ledled Cymru a thu hwnt i ddechrau a thyfu, trwy eu rhaglenni cefnogi busnes wedi’u teilwra. Maent wedi llunio’r rhaglenni hyn i ymateb i ofynion grwpiau targed penodol, ac maent wedi llwyddo i helpu nifer fawr o entrepreneuriaid i sefydlu a rhedeg eu busnesau a’u paratoi i ddatblygu ymhellach.

    Mae prosiect Cyswllt Ffermio yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr. Mae nifer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%.Mae'n holl swyddi yn cael ei hyrwyddo ar:
    •Ein wefan: https://menterabusnes.cymru/swyddi/
    •Cyfryngau Cymdeithasol: Instagram @menterabusnes / Facebook Menter a Busnes / LinkedIn Menter a Busnes
    Os wyt ti angen unrhyw fwy o wybodaeth, rho wybod.

    Menter a Busnes is leading the charge in ensuring Wales’ ongoing economic development. Menter a Busnes supports business start-up and growth for individuals, groups and SMEs across Wales and beyond, through our tailor-made business support programmes. These programmes, which we design to meet the unique needs of specific target groups, have helped scores of entrepreneurs to get their businesses up and running and ready for growth.

    The Farming Connect is a project providing support which is transforming the business prospects of thousands of farmers and foresters. Many services are fully funded, others are subsidised by up to 80%
    28 min
  • #13 Sioned; GIG; Iechyd a Gofal
    Podlediad Cymraeg gyda Sioned sydd yn gweithio fel Bydwraig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | A Welsh podcast with Sioned who works as a midwife for Hywel Dda University Health Board.
    Mae’r cyfleoedd o fewn y sector iechyd a gofal yn tyfu yn gyflym ac yn ymwneud a gofal claf. Gyda dros 350 o gyfleoedd gyrfa mae yna swydd i bawb beth bynnag eich sgiliau, profiad neu gymhwyster.
    Dyma ddolenni i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gyrfa:
    Ymgyrch Recriwtio Academi Brentisiaeth-2022
    https://biphdd.gig.cymru/swyddi/gweithio-i-ni/
    Croeso i Dregyrfa

    Health and social care is a large and fast growing sector involving the care of patients. With over 350 career opportunities there is job role to suit everyone whatever skills, experience, or qualifications. Here are links for further information on career opportunities:
    Recruitment Campaign for Apprenticeship Academy 2022
    NHS Wales Working for Us
    Careersville
    10 min

About Pod Profi

From the publisher's feed

Croeso i gyfres Pod Profi sy'n cael ei rheoli gan Menter Gorllewin Sir Gâr, lle i ni’n sgwrsio gyda phobl am eu swyddi diddorol a darganfod mwy am beth ma nhw’n neud o ddydd i ddydd. Mae nhw wedi…