
Sign up to save your podcasts
Or


*RHYBUDD CYNNWYS* Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am achos llys Russell Brand, trais ac ymosodiadau rhyw.
Mae Mari bellach wedi dychwelyd o gynnal ei chynhadledd i'r wâsg ar fod yn prepper, mae'r Unol Daleithiau yn las ac mae Owain Wyn Evans wedi cychwyn ar gefn ei feic o amgylch yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru. Ar ben hynny, mae Kim Kardashian wedi gorfod ad-dalu ei chwsmeriaid, mae Cordia wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach ac mae'r band Ciwb wedi rocio neuadd bentref Llanuwchllyn. Dewch i mewn i'r siop i glywed yr hanes!
Mae hi bellach yn Dachwedd ac mae Mariah wedi ei dadmer o'r bloc iâ. Rhy gynnar i roi'r addurniadau i fyny? Beth fydd ar eich bwydlen Dolig chi? Dyma rai o'r cwestiynnau yn y blwch yr wythnos hon. Heb sôn am drafodaeth am ffeinal y Traitors, enwebiadau BIFA ac Heidi Klum fel llaw... Mewn â chi!
Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn!
Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!
Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.
Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs!
Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.
Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!
Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!
Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!
Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.
From the publisher's feed
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

339 Listeners

1,295 Listeners

617 Listeners

895 Listeners

529 Listeners

858 Listeners

744 Listeners

153 Listeners

46 Listeners

1,025 Listeners

655 Listeners

230 Listeners

29 Listeners

230 Listeners