Mae'r gwanwyn wedi dod! â phennod newydd o bodlediad Clera gydag e! Yn y bennod hon cawn drafodaeth ar reol gwrth-gynganeddol Y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan fardd ifanc cyffrous, Rebecca Rees a hefyd sgwrs gyda golygydd cyfrol hyfryd newydd o waith R. Williams Parry, Dr Elis Dafydd. Hyn a llawer iawn mwy mewn pennod swmpus o brif bodlediad barddol Cymraeg y byd!