Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

By BBC Radio CymruSports
Download on the App Store

Y Coridor Ansicrwydd episodes

  • Norwy nesa' i Gymru ac Abertawe yn mynd o nerth i nerth

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiad Cymru yn erbyn Albania sydd wedi mynd a thîm Rhian Wilkinson gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2027. Norwy fydd y gwrthwynebwyr nesa'...a chyfle i brofi pwynt yn erbyn y cyn rheolwr Gemma Grainger.

    Ac wrth i Abertawe eistedd ar frig y Bencampwriaeth wedi 10 gêm gynta'r tymor, ydi hi'n amser dechrau ystyried bod ganddyn nhw'r gallu i ennill y gynghrair?

    56 min
  • Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru

    Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ysu i gael y cyfle i brofi ei hun yn ebryn Erling Haaland a Cristiano Ronaldo fis nesaf.

    Chafodd ddim y cyfle i wneud hynny mis yma oherwydd ei anaf, wrth i Gymru chwarae pedair gêm anodd iawn yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Daeth y cyfnod heriol i ben wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Denmarc, ond cyn hynny, codwyd calonnau pawb gyda'r fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Norwy. Felly, beth ydan ni a Chymru wedi ei ddysgu o'r gemau yma..?

    52 min
  • Lle mae Cymru yn mynd o fa'ma?

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros ddau ganlyniad siomedig i Gymru yn erbyn Portiwgal a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Tra bod yna falchder yn y perfformiad wrth golli yn Lisbon, mae'r perfformiad yn Copenhagen wedi codi cwestiynau dyrys dros safon y garfan a thactegau'r hyfforddwr Craig Bellamy. A chyda gemau cartref yn erbyn Norwy a Denmarc i ddilyn, mae'n bosib iawn fydd rhediad heb ennill Cymru yn ymestyn i wyth gêm.

    Doedd dim modd anwybyddu'r stori fawr am euogrwydd Manchester City am dorri rheolau gwario Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae'r criw yn cofio nôl i 1994 pan ddaeth torf o 3,250 i wylio Porthmadog yn erbyn Bangor.

    54 min
  • Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan

    Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed.

    Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson yn ei deimlo ar ôl cychwyn hynod siomedig i'r tymor, gafodd ei amlygu gan y grasfa o 6-0 yn West Ham. Fydd y perchnogion hyd yn oed ystyried diswyddo'r rheolwr o gofio ei holl lwyddiant?

    Ac mae dannedd Malcolm yn creu trafferth iddo unwaith eto, ac yn peryglu diogelwch Dylan!

    53 min
  • Rwbath efo Mick Jagger

    Penodiad Ashley Williams ac Alan Sheehan i dîm hyfforddi Craig Bellamy gyda Chymru sy'n hawlio prif sylw Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar y bennod yma. Mae 'na gryn edrych ymlaen hefyd i gynhadledd y wasg wythnos nesaf pan fydd Bellamy yn cael ei gwestiynu am y tro cyntaf am ei gysylltiadau gyda Burnley dros yr haf.

    Mae'r bennod yn cael ei amharu gan argyfwng Mal gyda'i giw iâr, a tydi ei hwyliau'n gwella dim wrth i Owain wrthod datgelu sut gafodd o docyn i eistedd nesaf i Mick Jagger yn Stadiwm Emirates dydd Sul.

    51 min
  • Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill

    Tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac mae Owain Tudur Jones yn barod yn breuddwydio am flasu'r bwyd ysblennydd sydd ar gael i'r wasg gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr. Do, mae Abertawe wedi cael cychwyn calonogol iawn i'r tymor ac yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at y gobaith am dymor llwyddiannus, mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr trosglwyddo, ac wedi llwyddo i ddal eu gafael ar Zan Vipotnik. Ond siawns bod hi bach yn gynnar i ddechrau meddwl am ddyrchafiad.

    Does fawr i'w ddathlu ymysg cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw barhau aros i weld y Cochion yn ennill. Mae'r clwb wedi bod yn gwario eto ar chwaraewyr newydd, ond tydi Dylan Griffiths na Malcolm Allen yn siŵr os ydi'r wynebau newydd wedi gwella safon y garfan. Tydi Caerdydd heb wario, a rhai yn cwestiynu ymroddiad y perchennog Vincent Tan.

    Ac ydi Caernarfon wedi darganfod seren newydd..?

    51 min
  • Syrthio mewn cariad yn Aberystwyth yn 15 oed

    Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi?

    Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr Casnewydd. Tydi o ddim bellach. Aeth Kamwa rhy bell wrth ddathlu yn wynebau'r cefnogwyr Casnewydd ar ôl sgorio i'w glwb newydd Bristol Rovers?

    Owain Llŷr sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

    53 min
  • Cychwyn calonogol i bawb

    Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd?

    Ac mae Owain a Malcolm yn talu teyrnged i Darren Thomas, wrth i'r Cofi Messi benderfynu dod â gyrfa 15 mlynedd gyda Chaernarfon i ben. Owain Llyr sy'n cyflwyno.

    59 min
  • Colli dannedd a siom 'Sdeddfod

    Ar drothwy tymor newydd, mae'n amser proffwydo unwaith eto wrth i Abertawe, Caerdydd a Wrecsam gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ail haen Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Pwy fydd yn gorffen uchaf? Fydd unrhyw un yn cael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair?

    Mae gan Brennan Johnson gartref newydd arall wrth iddo adael Crystal Palace am Everton. Fydd David Moyes yn gallu datgloi'r gyfrinach i gael y gorau allan o ymosodwr Cymru?

    Ond cyn hynny mae angen trafod a dadansoddi'r siom o beidio ennill gwobr podlediad chwaraeon gorau Cymru yng Ngwobrau Pod Cymru ar faes yr Eisteddfod. O, ac mae Mal wedi colli ei ddannedd!

    43 min

About Y Coridor Ansicrwydd

From the publisher's feed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

More shows like Y Coridor Ansicrwydd

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,579 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,042 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,488 Listeners

In Our Time: History by BBC Radio 4

In Our Time: History

1,880 Listeners

In Our Time: Culture by BBC Radio 4

In Our Time: Culture

604 Listeners

In Our Time: Science by BBC Radio 4

In Our Time: Science

723 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,827 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,040 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

69 Listeners

The Gary Neville Podcast by Sky Sports

The Gary Neville Podcast

280 Listeners

The Welsh Rugby Podcast by Reach Podcasts

The Welsh Rugby Podcast

10 Listeners

Feast of Football by BBC Radio Wales

Feast of Football

33 Listeners

Undr The Cosh by Undr The Cosh

Undr The Cosh

240 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,209 Listeners

The Price of Football by Dap Dip

The Price of Football

380 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

125 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,602 Listeners

The Concourse: Everything Welsh Football by Alternative Wales

The Concourse: Everything Welsh Football

2 Listeners

Overlap Daily by The Overlap

Overlap Daily

266 Listeners

That Peter Crouch Podcast by Tall or Nothing

That Peter Crouch Podcast

319 Listeners

Rio Ferdinand Presents by Rio Ferdinand Presents

Rio Ferdinand Presents

85 Listeners

The Rest Is Football by Goalhanger

The Rest Is Football

706 Listeners

Stick to Football by The Overlap

Stick to Football

400 Listeners