Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

By BBC Radio CymruSports
Download on the App Store

Y Coridor Ansicrwydd episodes

  • Mae Wrecsam wedi clicio!

    Ar ôl colli'n flêr i Abertawe cyn y Nadolig, prin fyddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi gofyn am ymateb gwell gan eu chwaraewyr. Pedair buddugoliaeth yn olynol - gan godi'r Cochion o fewn chwe phwynt i'r ail safle yn y Bencampwriaeth. Ydi cyfnod perffaith yma yn cynnig gobaith am ddyrchafiad awtomatig?

    Digon derbyniol oedd canlyniadau a pherfformiadau Abertawe hefyd, gan berswadio Owain mai mynd o nerth i nerth fydd yr Elyrch o dan Vitor Matos o hyn tan ddiwedd y tymor. Parhau ar y brig mae Caerdydd yn Adran Un, ac mae Casnewydd yn symud i'r cyfeiriad cywir drwy godi oddi ar waelod yr Ail Adran.

    Ond pwy sydd ar frig y tabl proffwydo? Does gan neb fawr o syniad i ddeud y gwir wrth i Dylan golli trac a cholli'i ben.

    46 min
  • Teyrnged i Terry Yorath

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cofio cyn chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath, fu farw yn 75 oed.

    22 min
  • Tair Gêm Bwysicaf

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis y tair gêm fwyaf arwyddocaol yn eu gyrfa bêl-droed. The crew discuss matches which have a special meaning for them.

    28 min
  • Anrhegion y tri gŵr doeth

    Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yw'r tri gŵr doeth sy’n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Wrecsam ac yn edrych ymlaen at gemau dros gyfnod y Nadolig. Bydd Dylan yn gofyn beth fydd rheolwyr timau Cymru eisiau fel anrhegion Nadolig, ac mae yna gwis arbennig - ond nid pawb sy’n hapus...mae ffrij Dylan Griffiths wedi torri!

    53 min
  • Mae 'na hufen iâ hyfryd ym Mae Trearddur

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod perfformiad Caerdydd yn erbyn Chelsea, y darbi rhwng Abertawe a Wrecsam, cyfweliad syfrdanol rheolwr Penybont Rhys Griffiths a'r clybiau annisgwyl sydd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.

    44 min
  • Mo llyncu mul a Diego Wilson

    Oes gan y criw unrhyw gydymdeimlad tuag at Mo Salah yn dilyn ei gyfweliad tanllyd yn erbyn rheolwr Lerpwl Arne Slot? Ydi blaenwr anhapus Lerpwl wedi torri'r rheol euraidd drwy beidio cadw ei gwynion o fewn yr ystafell newid? Go brin fod Malcolm wedi pwdu fel hyn pan gafodd o ei adael allan o'r tîm...

    Dim ond clod sydd i Harry Wilson yn dilyn gôl wych arall i Fulham dros y penwythnos, gydag ambell gôl arall hefyd yn dal sylw.

    46 min
  • Dwy gêm anferth i Abertawe, Lawlor yn denu sylw a rhyddhad Wilkinson

    Gemau all ddiffinio gweddill y tymor. Dyna sut mae'r criw yn gweld dwy gêm nesaf Abertawe - y ddwy adref ac yn erbyn timau o'u cwmpas ger gwaelodion y Bencampwriaeth. A tydi'r arwyddion ddim yn wych ar ôl i'r Elyrch ildio mantais o ddwy gôl wrth golli yn West Brom.

    Parhau i godi'r tabl mae Wrecsam, gan ddangos yr "ysbryd a'r cymeriad" i sgorio gôl hwyr i osgoi colli yn erbyn Blackburn. A daeth rhediad heb ennill Cymru i ben drwy guro'r Swistir - buddugoliaeth gyntaf tîm Rhian Wilkinson yn 2025.

    Ac ar ôl cyfweliad hynod onest a chignoeth ar raglen Sgwrs Dal y Lloer, mae 'na lwyth o gariad tuag at Mal.

    50 min
  • Tipyn o her i Matos a Fuchs

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y dasg sy'n wynebu rheolwyr newydd Abertawe a Chasnewydd.

    Ond go brin fod hi'n anoddach na'r cwestiwn cwis yr wythnos yma...

    47 min
  • Does unman yn debyg i gartref

    Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill.

    Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan sy'n camu mewn i drafod gobeithion tîm Craig Bellamy gyda Mal a Dyl.

    46 min
  • Sheehan allan ac anafiadau Cymru

    Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod yr enwau yn y ffrâm i gymryd swydd rheolwr Abertawe ar ôl i'r clwb ddiswyddo Alan Sheehan, ac yn gofyn os fydd diffyg goliau yn brifo Cymru wrth i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026 gyrraedd y ddwy gêm olaf.

    51 min

About Y Coridor Ansicrwydd

From the publisher's feed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

More shows like Y Coridor Ansicrwydd

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,579 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,042 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,488 Listeners

In Our Time: History by BBC Radio 4

In Our Time: History

1,880 Listeners

In Our Time: Culture by BBC Radio 4

In Our Time: Culture

604 Listeners

In Our Time: Science by BBC Radio 4

In Our Time: Science

723 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,827 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,040 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

69 Listeners

The Gary Neville Podcast by Sky Sports

The Gary Neville Podcast

280 Listeners

The Welsh Rugby Podcast by Reach Podcasts

The Welsh Rugby Podcast

10 Listeners

Feast of Football by BBC Radio Wales

Feast of Football

33 Listeners

Undr The Cosh by Undr The Cosh

Undr The Cosh

240 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,209 Listeners

The Price of Football by Dap Dip

The Price of Football

380 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

125 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,602 Listeners

The Concourse: Everything Welsh Football by Alternative Wales

The Concourse: Everything Welsh Football

2 Listeners

Overlap Daily by The Overlap

Overlap Daily

266 Listeners

That Peter Crouch Podcast by Tall or Nothing

That Peter Crouch Podcast

319 Listeners

Rio Ferdinand Presents by Rio Ferdinand Presents

Rio Ferdinand Presents

85 Listeners

The Rest Is Football by Goalhanger

The Rest Is Football

706 Listeners

Stick to Football by The Overlap

Stick to Football

400 Listeners