
Sign up to save your podcasts
Or


Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na le i boeni am y perfformiad, ta'r canlyniad ydi'r unig beth sy'n cyfri? Roedd 'na dipyn o anghytuno ynglŷn â hynny rhwng y criw!
Ond un peth sy'n sicr, roedd pawb wedi rhyfeddu gan berfformiad di-fai Dylan Lawlor yng nghanol yr amddiffyn wrth iddo ennill ei gap cyntaf. Seren newydd y dyfodol
Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu’r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m.
Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...
Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?
Owain Llyr sy’n ymuno ag OTJ a Mal i edrych ymlaen at gêm Cymru yn Kazakhstan
Mae Dylan Griffiths a Malcolm Allen yn cael cwmni Iwan Roberts. Mae yna atgofion am ganu gyda Elton John, ac wedi’r dechrau da mae o wedi ei gael gyda Chaerdydd y tymor yma fydd clybiau yn cadw golwg ar Rubin Colwill?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu perfformiadau a chanlyniadau cynnar pedwar prif glwb Cymru, a'r safleoedd sydd angen eu cryfhau yn y garfan.
Ac yn ddigon lwcus i Mal, ddoth sefyllfa Alexander Isak yn Newcastle United i fyny yn y sgwrs... cyfle perffaith felly i ddangos bod o dal yn cymysgu yn yr un cylchoedd â rhai o'r mawrion!
Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cymaint dros y clwb. Ac mae ganddo egsliwsif neu ddau i rannu hefyd...
Mi fydd tymor Abertawe hefyd yn cychwyn ddydd Sadwrn. Oes 'na obaith am fwy na thymor arall yng nghanol y tabl? A beth fydd effaith mewnbwn Snoop Dogg a Luka Modric? Ac wrth gwrs, mae'r tymor wedi cychwyn yn barod i Gaerdydd a Chasnewydd.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut all Cymru adeiladu ar ei ymddangosiad hanesyddol cyntaf yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Colli tair, chwarae tair ydi'r ffeithiau moel. Ond y gobaith yw fydd effaith cyrraedd Y Swistir i'w deimlo am flynyddoedd i ddod.
A pham yn y byd bod y rapiwr Snoop Dogg yn hyrwyddo crys newydd Abertawe..?!
Fel y disgwyl, roedd Ffrainc yn rhy gryf i Gymru ond roedd digon o reswm i ddathlu. Roedd wyneb Jess Fishlock, ac ymateb yr holl garfan, yn adrodd cyfrolau wrth iddi ddathlu sgorio gôl gyntaf Cymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop... a chreu record newydd yn y broses fel y sgoriwr hynaf yn hanes yn gystadleuaeth.
Catrin Heledd sy'n ymuno efo Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi noson hanesyddol i Gymru, ac edrych ymlaen at yr her olaf yn erbyn yr hen elyn.
Oedd yr emosiwn yn ormod? Oedd tactegau Rhian Wilkinson yn anghywir? Oes rhaid derbyn bod Cymru lefel yn is na goreuon Ewrop? Dyna rai o'r cwestiynau i'w hateb wrth i gyn flaenwr Cymru Gwennan Harries ymuno gyda Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi'r golled o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025.
Ond y cwestiwn pwysicaf oll - pam bod OTJ wedi dychryn am ei fywyd mewn sawna..?!
From the publisher's feed
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

7,579 Listeners

1,042 Listeners

5,488 Listeners

1,880 Listeners

604 Listeners

723 Listeners

1,827 Listeners

1,040 Listeners

69 Listeners

280 Listeners

10 Listeners

33 Listeners

240 Listeners

3,209 Listeners

380 Listeners

125 Listeners

1,602 Listeners

2 Listeners

266 Listeners

319 Listeners

85 Listeners

706 Listeners

400 Listeners