Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

By BBC Radio CymruSports
Download on the App Store

Y Coridor Ansicrwydd episodes

  • Dim ond mis sydd i fynd o'r tymor!

    Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.

    Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal.

    Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro am dynged Caerdydd tymor yma. Ond ar hyn o bryd, does 'na fawr o dystiolaeth i awgrymu mai llwyddo i aros yn y Bencampwriaeth fydd yr Adar Gleision.

    Ac ydi Rhian Wilkinson yn iawn i ofyn am fwy o gefnogaeth i ferched Cymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd?

    56 min
  • Brooks yn achub Cymru (ac Allen) yn Skopje

    Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud!

    Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia drafod, ac yn rhoi amser i Owain "ro’n i'n barod i gwffio" Tudur Jones setlo lawr.

    53 min
  • Haway Cymru!

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n 'dathlu' buddugoliaeth Newcastle United yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair ac yn ysu i weld Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

    50 min
  • Ergyd drom i Ramsey wrth i Gaerdydd faglu eto

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?

    49 min
  • Dwi ddim isho clod!

    Mae Dylan Griffiths yn chwarae gêm beryglus. Nid yn unig ydi o'n penderfynu beirniadu Malcolm Allen am safon ei broffwydo, ond mae o hefyd yn mynd mor bell â dweud wrtho am ymddiheuro. Eithaf hawdd proffwydo pa fath o ymateb cafodd o i hyn...

    Mae Owain Tudur Jones yn ei chael hi hefyd, ac mae hwnnw yn ychwanegu cefnogwyr Aberystwyth arall i'w restr (hirfaith erbyn hyn) o bethau sy'n mynd "ar ei nyrfs". Tensiwn diwedd tymor bois bach, peidiwch â sôn!

    54 min
  • Pot Meet Kettle!

    Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.

    Mae Dyl, Ows a Malcs yn trafod canlyniad gwych Cymru ac adfywiad Caerdydd ac Abertawe.

    29 min
  • Sut mae datrys problemau Abertawe?

    Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr?

    Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn nhw gychwyn eu hymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Eidal a Sweden.

    48 min
  • Fasa Trunds di chwarae i Uganda!

    Ydi byw yng Nghymru am bum mlynedd yn ddigon i fod yn gymwys i ennill cap cenedlaethol? Dyna'r brif drafodaeth ymysg Dyl, Ows a Mal yn dilyn ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau presennol er mwyn gallu cynnwys Matt Grimes yn y garfan.

    Mae'r tri hefyd yn trafod y cyhoeddiad ynglŷn â pha glybiau fydd yn ymuno gyda'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair genedlaethol yn ehangu i gynnwys 16 tîm yn nhymor 2026-27. Ac mae Dyl yn esbonio pam oedd o wedi gwylltio'n gacwn ddydd Sadwrn.

    47 min
  • Pysgota mewn llyn heb bysgod...na dŵr!

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu sefyllfa Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd ar ddiwedd ffenestr drosglwyddo mis Ionawr. Ac ar ôl dangos ei wir deimladau am 'yr Ayatollah' yn ddiweddar, mae 'na rywbeth arall bellach yn mynd "ar nyrfs" OTJ...

    53 min
  • Ionawr i'w anghofio i Abertawe

    Capten yn gadael, rheolwr yn gwylltio'r cefnogwyr, un pwynt o pum gêm - mae hi wedi bod yn fis hunllefus i Abertawe. Ydyn nhw mewn peryg o ddisgyn o dan Caerdydd yn y tabl mwyaf sydyn? Ond er gwaethaf y siom o weld yr Elyrch yn colli'n drwm yn Norwich, mi gafodd Owain noson i'w chofio yn un o'r tafarndai lleol...

    47 min

About Y Coridor Ansicrwydd

From the publisher's feed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

More shows like Y Coridor Ansicrwydd

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,579 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,042 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,488 Listeners

In Our Time: History by BBC Radio 4

In Our Time: History

1,880 Listeners

In Our Time: Culture by BBC Radio 4

In Our Time: Culture

604 Listeners

In Our Time: Science by BBC Radio 4

In Our Time: Science

723 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,827 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,040 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

69 Listeners

The Gary Neville Podcast by Sky Sports

The Gary Neville Podcast

280 Listeners

The Welsh Rugby Podcast by Reach Podcasts

The Welsh Rugby Podcast

10 Listeners

Feast of Football by BBC Radio Wales

Feast of Football

33 Listeners

Undr The Cosh by Undr The Cosh

Undr The Cosh

240 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,209 Listeners

The Price of Football by Dap Dip

The Price of Football

380 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

125 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,602 Listeners

The Concourse: Everything Welsh Football by Alternative Wales

The Concourse: Everything Welsh Football

2 Listeners

Overlap Daily by The Overlap

Overlap Daily

266 Listeners

That Peter Crouch Podcast by Tall or Nothing

That Peter Crouch Podcast

319 Listeners

Rio Ferdinand Presents by Rio Ferdinand Presents

Rio Ferdinand Presents

85 Listeners

The Rest Is Football by Goalhanger

The Rest Is Football

706 Listeners

Stick to Football by The Overlap

Stick to Football

400 Listeners