
Sign up to save your podcasts
Or


Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu pedwar mis cyntaf Craig Bellamy wrth y llyw fel rheolwr Cymru - y canlyniadau ar y cae, ei berthynas gyda'r wasg â'i ymweliadau i glybiau lleol ar hyd a lled Cymru.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n rhyfeddu at berfformiad arwrol arall gan Jess Fishlock wrth iddi ysbrydoli Cymru at fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Ewro 2025.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried gobeithion Cymru yn erbyn Slofacia yng ngemau ail-gyfle gemau rhagbrofol pencampwriaeth Ewro 2025 i ferched. Pwy fydd yn gallu camu mewn i esgidiau Sophie Ingle a fydd Jess Fishlock yn holliach?
Ydi Omer Riza wedi gwneud digon i gael ei benodi'n rheolwr newydd Caerdydd? Mae o'n sicr i weld yn cael y gorau allan o Rubin Colwill. A pham bod Owain druan wedi torri ei galon yn Alton Towers..?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dadansoddi gêm gyfartal Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ a'r fuddugoliaeth yn erbyn Montenegro - dau ganlyniad sy'n golygu mai Craig Bellamy ydi'r rheolwr cyntaf i beidio colli ar ôl ei pedair gêm gyntaf. Unwaith eto, mae sawl agwedd o chwarae Cymru yn plesio, ac ambell i unigolyn yn haeddu clod arbennig.
Yr unig siom ydi bod rhaid aros mis tan y gemau nesaf...
Ar ôl cael eu plesio’n fawr yn nwy gêm gyntaf, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn disgwyl yn eiddgar i weld y perfformiadau nesaf Cymru o dan y rheolwr newydd Craig Bellamy yn erbyn Gwald yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Pencampwyr. Pwy fydd yn cychwyn tro ‘ma? Beth fydd siâp y tîm? A pham bod gan Ows atgofion sigledig o chwarae yn Reykjavik?
01’00 Cyffro'r cyfnod rhyngwladol
Mae Joe Allen yn ôl yng ngharfan Cymru a fedrith Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim stopio gwenu. Hefyd yn plesio ydi'r opsiynau ymosodol ychwanegol i'r rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd - a'r ffaith bod Brennan Johnson yn dechrau sgorio.
Fydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn chwarae yn Ewrop cyn hir? Mae Prosiect Cymru yn cael sêl bendith Y Coridor beth bynnag. A pham bod Ows yn rhannu tips ar sut i ddal ymbarel?
02'00 Joe Allen
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma?
01'20 Peli golff coll Owain
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried faint o amser geith Erol Bulut i ddatrys problemau Caerdydd wrth iddyn nhw barhau ar waelod y Bencampwriaeth. Gawn ni wybod hefyd pa glwb sy'n berchen a rhai o'r toiledau gorau yn y Gynghrair Bêl-droed a sut nath Owain adael ei farc ar reolwr Birmingham Chris Davies.
01'30 Chwaraewyr ar streic?
Wel am ddechrau i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru! Perfformiad trawiadol mewn gêm gyfartal yn erbyn Twrci ac yna buddugoliaeth wych mewn amodau anodd yn Montenegro - mae'n deg dweud bod Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wedi eu plesio'n fawr.
Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?
Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.
From the publisher's feed
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

7,579 Listeners

1,042 Listeners

5,488 Listeners

1,880 Listeners

604 Listeners

723 Listeners

1,827 Listeners

1,040 Listeners

69 Listeners

280 Listeners

10 Listeners

33 Listeners

240 Listeners

3,209 Listeners

380 Listeners

125 Listeners

1,602 Listeners

2 Listeners

266 Listeners

319 Listeners

85 Listeners

706 Listeners

400 Listeners