
Sign up to save your podcasts
Or


Dyl, Ows a Mal sy'n edrych nol ar ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd, ac yn dyfalu pwy fydd yn rhan o dîm hyfforddi Craig Bellamy.
Diolch byth am Wrecsam! Yr unig glwb i ennill ar ddiwrnod agoriadol y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr. Roedd Dyl yno yng nghanol y cyffro ar y Cae Ras, gan hefyd sgwrio efo neb llai na Rob Mcelhenney (fydden nhw'n ffrindiau pennaf cyn hir dwi'n siŵr).
Doedd pethau ddim cystal i'r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli yn Ewrop, a doedd Owain druan ddim rhy hapus wrth i'w goesau jiráff brofi'n broblem unwaith eto wrth drio sylwebu.
Mae'n amser darogan pedwar uchaf a thri isaf Uwch Gynghrair Lloegr eto.. digon o anghytuno ac ambell i ddewis dryslyd iawn.
Mae’r benod newydd o’r Coridor Ansicrwydd wedi ei chyhoeddi fan hyn...
Gyda’r tymor pêl droed newydd yn dechrau’r penwythnos yma mae Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn asesu gobeithion 4 prif dîm Cymru gyda Owain a Malcolm yn proffwydo pa un o’r 4 rheolwr fydd dal yn ei swydd erbyn diwedd y tymor. Mae nhw hefyd yn trafod y Cymru Premier fydd hefyd yn dechrau y penwythnos yma, a gobeithion y Seintiau Newydd yn Ewrop.
With the new football season starting this weekend Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen assess the hopes for Cardiff, Swansea, Wrexham and Newport. Owain and Malcolm also predict if the 4 mangers will still be in charge of their clubs at the end of the season. They also discuss the start of the Cymru Premier season, and if the New Saints will progress to the group stages of the Europa League.
Mae 'na gynnwrf mawr ymysg Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wrth iddyn nhw ymateb i benodiad Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru.
Owain Tudur Jones sy'n trafod rhai o'r enwau sy'n cael eu cysylltu gyda swydd rheolwr Cymru ar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddiswyddo Rob Page.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y niwed i reolwr Cymru Rob Page yn dilyn dau berfformiad tila mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia. Oes modd iddo aros er gwaethaf holl feirniadaeth y cefnogwyr? A beth am Ewro 2024? Mae'r ddau arbenigwr yn dewis yr enillwyr, y tîm i greu sioc a'r prif sgoriwr.
Mae'r emosiwn yn llifo wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ymateb i gêm gyfartal Cymru yn erbyn Gibraltar. Ydi Rob Page mewn peryg o golli ei swydd fel rheolwr?
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis tîm y tymor ac yn gwobrwyo'r rheini sydd wedi serennu.
Ydi Caerdydd wedi gwella o dan y rheolwr Erol Bulut y tymor yma? Mae 'na wahaniaeth barn mawr rhwng Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi Mo Salah wedi pardduo ei enw da ar ôl ffraeo'n gyhoeddus efo Jurgen Klopp?
From the publisher's feed
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

7,574 Listeners

1,043 Listeners

5,492 Listeners

1,876 Listeners

602 Listeners

725 Listeners

1,826 Listeners

1,035 Listeners

69 Listeners

282 Listeners

10 Listeners

33 Listeners

238 Listeners

3,212 Listeners

380 Listeners

125 Listeners

1,601 Listeners

2 Listeners

266 Listeners

318 Listeners

85 Listeners

707 Listeners

398 Listeners