
Sign up to save your podcasts
Or


Mae Kath Morgan wedi cyrraedd Y Swistir - ac mae'r emosiynau'n hedfan. Bron i 20 mlynedd ers iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad, prin fod Kath yn gallu coelio bod Cymru yn cystadlu ymysg prif dimau Ewrop am y tro cyntaf. Fydd hyn yn gam rhy bell i'r merched? Fydd Sophie Ingle yn cychwyn y gêm gyntaf? Pa mor bwysig fydd profiad Rhian Wilkinson yn arwain y garfan? Mae 'na lot i drafod efo Dyl, Ows a Mal!
Rhyfedd sut mae colled gallu teimlo mor dda a buddugoliaeth mor siomedig. Bu bron i ni weld un o ganlyniadau gorau yn hanes Cymru yng Ngwlad Belg wrth frwydro nôl o dair gôl i lawr, ond gadael yn waglaw bu'n rhaid gwneud. Tridiau yng nghynt, digon fflat oedd yr ymateb ar ôl curo Liechtenstein o dair gôl i ddim. O ganlyniad, mae Cymru wedi disgyn i ail yn y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Pa wersi ddysgodd Craig Bellamy o'r ddwy gêm? Pa mor arwyddocaol fydd peidio cymryd pwyntiau oddi ar Wlad Belg? Pam na allith Kevin de Bruyne ddim ymddeol?!
A pam bod Caerdydd yn cael gymaint o drafferth i benodi rheolwr? Mae gan Malcolm neges arbennig i Vincent Tan...
Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf.
Pa wersi fydd Wilkinson wedi eu dysgu o'r ymgyrch? Sut all Cymru gynnig fwy o fygythiad ymosodol? Pwy sydd heb wneud digon i ennill lle yn y garfan? Fydd Sophie Ingle yn rhedeg allan o amser er mwyn profi ei ffitrwydd?
Mae hi'n gyfnod prysur i'r dynion hefyd gyda dwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Buddugoliaeth swmpus yw'r disgwyliad yn erbyn Liechtenstein. Fydd 'na noson "hanesyddol" i ddilyn yng Ngwlad Belg..?
Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed.
Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr awyren i'r Swistir?
Mae 'na Gymro wrth y llyw yng Nghasnewydd... a Chymraes swnllyd yn dod efo fo!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen sy'n trafod y da, y drwg a'r digri o'r tymor a fu.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n i chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe Joe Allen wrth iddo gyhoeddi fod ei yrfa hynod lwyddiannus ar fin dod i ben.
Mae'r hogia' hefyd yn trafod y gwaith fydd gan reolwr Abertawe Alan Sheehan i ddenu chwaraewyr newydd i'r clwb dros yr haf, a'r dasg anoddach fyth sydd gan berchennog Caerdydd Vincent Tan i fabwysiadu strwythur gwell oddi car y cae er mwyn ceisio esgyn yn syth nol i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogystal â'i farn am sut all Wrecsam gystadlu yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.
Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig.
Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb.
Ac am ddiweddglo sydd ar y gweill yn yr Adran Gyntaf wrth i Wrecsam a Wycombe gyfnewid lle unwaith eto yn yr ail safle hollbwysig. Gêm enfawr arall i ddod ar y Cae Ras ddydd Sadwrn wrth i Charlton ymweld, gyda'i rheolwr Nathan Jones yn ychwanegu hyd yn oed mwy o sbeis i'r achlysur wrth alw'r clwb yn "syrcas"!
Dyl, Malcs ac OTJ sy'n trafod taith Owain i Como a buddsoddiad Luka Modric yn Abertawe.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau a chanlyniadau merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson.
Er gwaethaf dwy gêm gyfartal oddi cartref, mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth. Ydi'r cefnogwyr wedi colli gobaith yn barod?
Mae'r momentwm tuag at ddyrchafiad yn parhau yn Wrecsam - mae eu dynged yn eu dwylo eu hun ar ôl i Wycombe ollwng rhag o bwyntiau.
Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes y podlediad, mae ffocws Mal yn cael ei chwalu wrth weld ci yn neud ei fusnes yn ei ardd ffrynt.
From the publisher's feed
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

7,579 Listeners

1,042 Listeners

5,488 Listeners

1,880 Listeners

604 Listeners

723 Listeners

1,827 Listeners

1,040 Listeners

69 Listeners

280 Listeners

10 Listeners

33 Listeners

240 Listeners

3,209 Listeners

380 Listeners

125 Listeners

1,602 Listeners

2 Listeners

266 Listeners

319 Listeners

85 Listeners

706 Listeners

400 Listeners