Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

By BBC Radio CymruSports
Download on the App Store

Y Coridor Ansicrwydd episodes

  • Dechrau'r daith i Frasil, Y Cas Ras yn bownsio & Celtic yn llygadu Bellamy

    Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol.

    Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chwalu unrhyw atgofion o'r golled siomedig i Gaerdydd yng Nghwpan y Gynghrair.

    Tydi'r hwyliau ddim cystal yn Abertawe. Ydi'r rheolwr Alan Sheehan yn tangyflawni o ystyried cryfder y garfan?

    Ac wrth i Craig Bellamy barhau i gael ei gysylltu gyda swydd wag Celtic, fydd o wir yn cael ei ddenu i'r Alban yng nghanol ymgyrch ragbrofol Cymru?

    51 min
  • Ani Glass: Troedigaeth bêl-droed

    Y gantores Ani Glass sy'n trafod ei chariad at y bêl gron, a sut ddysgodd hi am hoffter cyn seren Croatia Davor Suker at siocled.

    Yn yr ail ran, buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Wrecsam yng Nghwpan y Gynghrair ar y Cae Ras sy'n cael y prif sylw, wrth i'r criw drafod y gwahaniaeth amlwg rhwng dulliau hyfforddi'r ddau dîm.

    49 min
  • Joe Morrell, Lerpwl mewn picil ac Wrecsam angen ennill

    Yn 28 oed, bu'n rhaid i Joe Morrell dderbyn bod ei yrfa fel chwaraewr proffesiynol ar ben oherwydd anaf i'w ben-glin. Dau sy'n gallu uniaethu gystal â neb gyda'r ergyd enfawr hynny ydy Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

    Am y tro cyntaf ers dros i ddegawd, mae Lerpwl wedi colli pedair gem yn olynol. Manchester United, o bawb, oedd y diweddaraf i gael o gorau o dîm Arne Slot. Be sydd wedi digwydd i rai o sêr amlycaf y Cochion? Oes 'na obaith o'r newydd i gefnogwyr Utd?

    A pharhau i ddisgwyl am fuddugoliaeth mae Wrecsam. Ydi'r rheolwr Phil Parkinson wir mewn peryg o golli ei swydd?

    50 min
  • Diolch Jess

    Dylan, Owain a Mal sy'n ymateb i’r newyddion bod Jess Fishlock - un o sêr mwyaf hanes pêl-droed Cymru - wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol. Bydd digon o drafod hefyd ar berfformiad Cymru ar ôl y golled yn erbyn Gwlad Belg nos Lun. Mae cwestiynau’n codi am y tîm ac am yr arddull, ond dyw Bellamy ddim am newid.

    47 min
  • Gwers? Oedd hyn yn ddynion yn erbyn hogiau.

    Wedi’r wers bêl-droed yn Wembley nos Iau, lle mae hyn yn gadael tîm Craig Bellamy, sydd yn wynebu her arall enfawr nos Lun - yn erbyn Gwlad Belg, un o gewri pêl-droed y byd - mewn gêm y mae’n rhaid ei hennill os oes unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp ac ennill lle yn Nghwpan y Byd 2026.

    Hefyd, pwt o werthfawrogiad i’r capten Ben Davies, fydd yn cyrraedd ei 100fed cap dros Gymru nos Lun.

    27 min
  • Gall Cymru gladdu 'hoodoo' Lloegr?

    Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu gobeithion Cymru i guro Lloegr am y tro cyntaf mewn wyth gêm, a'r tro cyntaf yn Wembley ers 1977. Fydd y rheolwr Craig Bellamy yn dewis ei dîm cryfaf wrth ystyried yr her 'bwysicach' i ddilyn yn erbyn Gwlad Belg? Ai dyma garfan gwanaf Lloegr ers tro?

    Ac ar ôl i Russell Martin gael ei ddiswyddo gan Rangers, mae Ows yn rhoi blas o'r driniaeth sarhaus mae ei ffrind wedi ei ddioddef yn yr Alban.

    54 min
  • Dwrn gan Jan Molby

    Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?

    A sôn am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y gêm? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 gêm.

    Ac ar ôl i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.

    51 min
  • Gwalia United ar garlam i gyrraedd y brig

    Mae gan Gwalia United gynlluniau uchelgeisiol iawn. Stadiwm newydd, chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac, yn bennaf oll, cyrraedd prif adran clybiau Lloegr, y Women's Super League. Hyn oll o fewn y pum mlynedd nesaf.

    Dau yng nghanol y prosiect ydi Trystan Bevan a Casi Gregson. Tra bod Trystan yn defnyddio ei brofiad helaeth ym myd rygbi proffesiynol i geisio gosod y sylfaen am gynnydd a llwyddiant oddi ar y cae, sgorio goliau yw nod Casi er mwyn cychwyn y daith o drydedd haen Lloegr i'r brig. Mae'r ddau yn esbonio wrth Ows a Mal sut yn union maen nhw'n bwriadu gwneud hynny...

    55 min
  • Cymru'n symud cartref a Parky dan bwysau

    Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Mae cryn amser hefyd ers i Wrecsam golli gymaint o gemau. QPR oedd y diweddaraf i guro criw y Cae Ras ddydd Sadwrn. Oes 'na bwysau ar y rheolwr Phil Parkinson? Mae gan Ows neges chwyrn at unrhyw gefnogwr sy'n galw am ei ddiswyddo. Ac mae gan Dyl her annisgwyl i Conor Coady...

    55 min
  • Cip i'r dyfodol wrth i Ganada danio Bellamy

    Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.

    Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.

    49 min

About Y Coridor Ansicrwydd

From the publisher's feed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

More shows like Y Coridor Ansicrwydd

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,579 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,042 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,488 Listeners

In Our Time: History by BBC Radio 4

In Our Time: History

1,880 Listeners

In Our Time: Culture by BBC Radio 4

In Our Time: Culture

604 Listeners

In Our Time: Science by BBC Radio 4

In Our Time: Science

723 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,827 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,040 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

69 Listeners

The Gary Neville Podcast by Sky Sports

The Gary Neville Podcast

280 Listeners

The Welsh Rugby Podcast by Reach Podcasts

The Welsh Rugby Podcast

10 Listeners

Feast of Football by BBC Radio Wales

Feast of Football

33 Listeners

Undr The Cosh by Undr The Cosh

Undr The Cosh

240 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,209 Listeners

The Price of Football by Dap Dip

The Price of Football

380 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

125 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,602 Listeners

The Concourse: Everything Welsh Football by Alternative Wales

The Concourse: Everything Welsh Football

2 Listeners

Overlap Daily by The Overlap

Overlap Daily

266 Listeners

That Peter Crouch Podcast by Tall or Nothing

That Peter Crouch Podcast

319 Listeners

Rio Ferdinand Presents by Rio Ferdinand Presents

Rio Ferdinand Presents

85 Listeners

The Rest Is Football by Goalhanger

The Rest Is Football

706 Listeners

Stick to Football by The Overlap

Stick to Football

400 Listeners