Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

By BBC Radio CymruSports
Download on the App Store

Y Coridor Ansicrwydd episodes

  • Newid rhwng dau gar mewn maes parcio

    Ar drothwy tymor newydd, mae'n teimlo fel bod y byd pêl-droed wedi ei throi ar ei phen. Pwy feddylia fod llywydd Fifa, Gianni Infantino, yn cynllunio i werthu Cwpan Y Byd? Wel, mae’r ymateb wedi bod yn chwyrn, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar flaen y gad. Testun balchder i’r criw Coridor yn sicr.

    Roedd ‘na gychwyn addawol i’r Cymru Premier, sydd ar ei newydd wedd, wrth i’r cefnogwyr heidio i’r gemau agoriadol. Fydd y diddordeb yn parhau tan fisoedd oer y gaeaf, a fydd ‘na glwb yn gallu herio’r Seintiau Newydd erbyn hynny?

    Ac wrth i Joe Allen baratoi i gael ei dderbyn i gylch yr Orsedd yn Eisteddfod y Garreg Las, Ows sy’n esbonio’r her o geisio esbonio i’w ffrind a'i wraig beth yn union fydd yn digwydd, a pham, yn ystod y seremoni urddo.

    52 min
  • Cwpan y byd a chlybiau Cymru yn Ewrop

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych yn ôl ar rownd derfynol y Cwpan y byd, y sioe hanner amser ag yn dewis chwaraewr y twrnament. Mae'r tri hefyd yn ceisio ffeindio ateb i broblemau timau domestig Cymru yn Ewrop.

    49 min
  • Croeso adra, cynffon rhwng y coesau!

    Heb os, mae 'na ddathlu, ac elfen o ryddhad ymysg y criw, bod Lloegr wedi methu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Yr Ariannin aeth a hi yn Atlanta, wrth i'r dewin bach Lionel Messi ddangos ei allu arbennig unwaith eto. Ond mi oedd y Saeson yn agos iawn at ennill - tybed os mai penderfyniadau tactegol y rheolwr Thomas Tuchel oedd ar fai?

    A sôn am agos, mae'r ras i ennill gem y broffwydo Cwpan y Byd mor gyffrous ag erioed... gydag enw annisgwyl iawn bellach wedi cyrraedd brig y tabl.

    58 min
  • Ffwlbri Fifa, paffwyr Paraguay a tactegau Tuchel

    Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros wythnos o ddigwyddiadau rhyfeddol yng Nghwpan y Byd.

    Mae'r tri hefyd yn crynhoi perfformiadau Cymru ym Mhencampwriaeth dan19 Ewrop ac yn ystyried pa fath o reolwr fyddai'n fodlon gweithio o dan Huw Jenkins yng Nghasnewydd.

    57 min
  • Blerwch Burnley Bellamy

    Fydd Craig Bellamy ddim yn gadael Cymru am Burnley wedi'r cyfan... ddim am y tro beth bynnag. Ar ôl edrych mai mater o amser oedd hi cyn i reolwr Cymri adael am Turf Moor, daeth y trafodaethau i ben yn sydyn, gan adael sawl cwestiwn i'w hateb. Pa effaith fydd yr helynt yn ei gael ar ei berthynas gyda chefnogwyr a chwaraewyr Cymru? Ydi'r Gymdeithas Bêl-droed yn sicr mai Bellamy ydi'r rheolwr cywir i'w harwain at Bencampwriaeth Ewro 2028? Digon i'w drafod!

    57 min
  • Yr Oval ar ei newydd wedd

    Sgwrs gyda rheolwr Caernarfon Richard "Fish" Davies wrth i'r Oval baratoi i gynnal gemau Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £1.3m. Ac ydi, ac y tro cyntaf yn hanes y stadiwm enwog, mae'r cae yn wastad!

    Ond cyn hynny, mae'r criw yn trafod stori fawr yr wythnos wrth i Craig Bellamy gynnal trafodaethau gyda Burnley er mwyn ymuno fel rheolwr. Ar ben hynny, mae Aaron Ramsey wedi cychwyn ei yrfa rheoli wrth ymuno gyda Rhydychen, tra bod Harry Wilson ar fin ymuno gyda'r criw Cymreig yn Leeds.

    Ac wrth gwrs, mae yna ddigon i'w drafod wedi wythnos arall o gemau yng Nghwpan y Byd.

    1 hr 6 min
  • Mae Cwpan y Byd yn plesio!

    Er absenoldeb Cymru yng Ngogledd America, mae 'na gynnwrf mawr ymysg y criw wedi'r wythnos gyntaf o gemau. O hat-tric Messi i sgiliau Olise, mae digwyddiadau ar y cae wedi gorchfygu'r pesimistiaeth a'r amheuon yn arwain at y gystadleuaeth. Dim ond dwy gêm tydi Malcolm heb wylio... ydi'r diffyg cwsg yn dechrau dangos?

    Ond cyn hynny, rhown deyrnged i gyn chwarae Cymru a chyn reolwr Abertawe Kenny Jackett, fu farw yn 64 oed. Mae Mal yn cofio ei gymeriad addfwyn fel cyd-chwaraewr, tra bod Ows yn cydnabod ei ddyled enfawr i'r dyn ddangosodd ffydd ynddo drwy agor y drws i mewn i'r gêm broffesiynol - drws o bosib fyddai wedi aros ar gae fel arall.

    47 min
  • Edrych mlaen i Gwpan y Byd?

    Ma Dylan, Owain a Malcolm yn edrych nol dros gemau diweddar timau dynion a merched Cymru, ac ar drothwy Cwpan y Byd 2026, ma'r tri yn dewis tim ma nhw am ei gefnogi.

    45 min
  • Bellamy yn agor y drws i Koumas

    Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth?

    Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl proffwydo'n gywir wythnos diwethaf bod cyfnod Arne Slot gyda Lerpwl ar fin dod i ben - rhywbeth sydd wedi gwneud Dylan yn ddyn hapus iawn.

    A gawn ni hanes perfformiad Owain mewn gêm elusennol yn Abertawe, wrth i glip fideo amlygu gwendid amddiffynnol rhyfeddol.

    50 min
  • Her newydd Ben Davies a Harry Wilson

    Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried pa opsiynau fydd gan Ben Davies a Harry Wilson i'w hystyried pan ddaw eu cytundebau i ben fis nesaf gyda'u clybiau presenol. Ac mae hi'n ddiwedd cyfnod yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth i sawl wyneb cyfarwydd a dylanwadol iawn adael.

    51 min

About Y Coridor Ansicrwydd

From the publisher's feed

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

More shows like Y Coridor Ansicrwydd

Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,579 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,042 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,488 Listeners

In Our Time: History by BBC Radio 4

In Our Time: History

1,880 Listeners

In Our Time: Culture by BBC Radio 4

In Our Time: Culture

604 Listeners

In Our Time: Science by BBC Radio 4

In Our Time: Science

723 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,827 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,040 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

69 Listeners

The Gary Neville Podcast by Sky Sports

The Gary Neville Podcast

280 Listeners

The Welsh Rugby Podcast by Reach Podcasts

The Welsh Rugby Podcast

10 Listeners

Feast of Football by BBC Radio Wales

Feast of Football

33 Listeners

Undr The Cosh by Undr The Cosh

Undr The Cosh

240 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,209 Listeners

The Price of Football by Dap Dip

The Price of Football

380 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

125 Listeners

Cyber Hack by BBC World Service

Cyber Hack

1,602 Listeners

The Concourse: Everything Welsh Football by Alternative Wales

The Concourse: Everything Welsh Football

2 Listeners

Overlap Daily by The Overlap

Overlap Daily

266 Listeners

That Peter Crouch Podcast by Tall or Nothing

That Peter Crouch Podcast

319 Listeners

Rio Ferdinand Presents by Rio Ferdinand Presents

Rio Ferdinand Presents

85 Listeners

The Rest Is Football by Goalhanger

The Rest Is Football

706 Listeners

Stick to Football by The Overlap

Stick to Football

400 Listeners