
Sign up to save your podcasts
Or


Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.
Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.
Andy Morrison
Rheolwr y Tymor 2020/21 sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer am sgwrs hir yn edrych dros ei yrfa bêl-droed.
Cawn gyfle i glywed am ei amser fel chwaraewr gyda Blackburn, Blackpool a Man City, a’i amser fel un o reolwyr gorau’r Cymru Premier dros y blynyddoedd diwethaf.
Cyfle i edrych nôl ar holl hynt a helynt pedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda Dylan a Sioned wrth i Bod Sgorio cyrraedd ei pennod 10!
Bydd ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams â rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths yn ymuno a ni cyn i'r ddau dîm gwrdd â'i gilydd yn y gynghrair penwythnos yma.
Cyfle i edrych nôl ar wythnos ryngwladol arall gyda Dylan a Sioned a chyfle i edrych ‘mlaen at benwythnos o bêl-droed Cwpan Cymru.
Bydd Craig Hogg, rheolwr Bae Colwyn yn ymuno â ni cyn i Fae Colwyn wynebu Met Caerdydd ym mhedwaredd rownd y gwpan.
Sgwrs arbennig gyda David Edwards, cyn-chwaraewr canol cae Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mis Hydref.
Bydd Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd yn trafod ei amser gyda’r tîm rhyngwladol, gobeithion Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol a’i amser gyda’r Bala yn y Cymru Premier.
Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar Sgorio:
Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer yn trafod ymddiswyddiad Andy Morrison yng nghwmni’r sylwebydd Mark Jones.
Cawn glywed hefyd gan reolwr Cymru, Robert Page, prif weithredwr CBDC, Noel Mooney, a rheolwr Y Fflint, Neil Gibson.
Cyfweliad arbennig gyda Phrif Weithredwr Y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney a chyfle i edrych mlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru gydag Andy Morrison, rheolwr Cei Connah a Richard Ryan, rheolwr Trefelin.
Am y tro cyntaf erioed, bydd camerâu byw Sgorio ar Barc yr Ynys, wrth i'r tîm o'r ail haen yn y de groesawu Pencampwyr yr Uwch Gynghrair. Trefelin v Cei Connah yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn 25/09/21 am 12.30
Cyfle i drafod y tymor Cymru Premier JD gyda rheolwr Y Barri, Gavin Chesterfield sydd wedi torri record y clwb am y nifer fwyaf o gemau wrth y llyw gyda 491 gêm.
Cawn hefyd gyfle i glywed gan Anthony Limbrick, rheolwr Y Seintiau Newydd gan edrych nôl ar y gemau Ewropeaidd yr haf a'i obeithion am y tymor.
Pod Sgorio, yng nghwmni Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.
Y Seintiau Newydd v Y Barri – yn fyw ar S4C nos Sadwrn am 5.
Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o’r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos.
Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd.
Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier.
Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy’n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.
From the publisher's feed

69 Listeners

7 Listeners

2,549 Listeners

267 Listeners

1,013 Listeners

33 Listeners

1 Listeners

125 Listeners

36 Listeners

63 Listeners

2 Listeners