
Sign up to save your podcasts
Or


Pod 63: Mynediad Am Ddim!
Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy’n edrych yn ôl dros Rownd Gyn-derfynol Gemau Ail-gyfle Uwch Gynghrair Cymru lle gurodd Y Drenewydd a Hwlffordd er mwyn cystadlu am le yn Ewrop penwythnos nesaf. Cyfle hefyd i drafod rhai o ganlyniadau gorau timoedd Cymru yn Ewrop.
Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym look back at the JD Cymru Premier Play-Off Semi Finals which saw Newtown and Haverfordwest book their places in next weekend's Final. They also discuss some of the Welsh clubs best results in Europe so far.
Pod 62: Ewrop gyda Mael Davies
Chwaraewr Pen-y-bont a Cymru ‘C’, Mael Davies sy’n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod ei dîm yn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf, Rownd Derfynol Cwpan Cymru ac edrych ymlaen at y Gemau Ail Gyfle.
Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by Pen-y-bont and Wales ‘C’ player Mael Davies as his team celebrate reaching Europe for the first time. They also look back at the Welsh Cup Final and preview the Cymru Premier European Play-Offs.
Pod 61: Drama Diwedd Tymor!
Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy’n edrych ‘nôl ar ddrama diwrnod olaf Uwch Gynghrair Cymru wrth i Aberystwyth osgoi’r cwymp tra’n anfon Y Fflint i lawr. Cyfle hefyd i ddewis eu uchafbwyntiau o’r tymor ac edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Cymru dydd Sul.
Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym look back at a dramatic final day of Cymru Premier action that saw Aberystwyth score a last-minute winner to avoid the drop, sending Flint Town United down in the process. They also choose their season highlights and look forward to the Welsh Cup Final this weekend.
Pod 60: Cwpan Cymru, Y Bala ac Aberystwyth gyda Ffiona Evans
Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym sy’n cael sgwrs gyda chwaraewr Merched Aberystwyth a Ffisiotherapydd Y Bala, Ffiona Evans am Rownd Derfynnol Cwpan Cymru rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala ymhen pythefnos, tymhorau timoedd dynion a merched Aber a chroesawi Wrecsam i’r Adran Genero tymor nesaf.
Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by Aberystwyth Women player and Bala Town physio Ffiona Evans. They discuss the Welsh Cup final between The New Saints and Bala in just under a fortnight, Aberystwyth’s Men and Women’s difficult seasons and they look forward to seeing Wrexham in the Adran Premier next season.
Pod 59: Penwythnos Pasg Prysur
Sioned Dafydd, Ifan Gwilym a Iolo Cheung sy’n edrych nôl ar benwythnos prysur Y Pasg yn Uwch Gynghrair Cymru a trafod y ddau dîm sydd wedi selio eu lle yn y brif adran tymor nesaf. Cyfle hefyd i edrych ymlaen at gêm ail-gyfle’r Adran Genero rhwng Merched Wrecsam a Llansawel.
Sioned Dafydd, Ifan Gwilym and Iolo Cheung look back at a busy Easter weekend in the Cymru Premier and discuss the two sides who have recently won promotion for next season. There’s also a chance to look forward to the Genero Adran Play-off final between Wrexham AFC Women and Briton Ferry Llansawel Ladies.
Pod 58: Pontypridd a’r Chwech Isaf gyda Owain Jones
Chwaraewr Pontypridd, Owain Jones sy’n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod penwythnos llawn drama ar waelod Uwch Gynghrair Cymru gyda’i dîm yn ildio gôl hwyr i gôl-geidwad Aberystwyth. Cyfle hefyd i longyfarch Merched Dinas Caerdydd ar ennill Prif Adran Genero.
Owain Jones of Pontypridd United joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to look back at a dramatic weekend at the bottom of the Cymru Premier with his side conceding a late goal by the Aberystwyth Town goalkeeper. Also a chance to congratulate Cardiff City Women on their Genero Adran Premier triumph.
Pod 57: Pedwar pwynt i Gymru a’r tîm dan-17 yn creu hanes!
Cyfle i edrych nôl ar ffenest rhyngwladol llwyddiannus i Gymru wrth i dîm y dynion gael pedair pwynt o ddwy gêm gyntaf Gemau Rhagbrofol Ewro 2024 tra bod y tîm dan-17 yn cyrraedd Ewro d-17 am y tro cyntaf – bechgyn Cymru ar y ffordd i Hwngari ym mis Mai felly!
A chance to look back at a successful international window for Wales as the men’s team pick up four points from their opening two Euro 2024 Qualifiers and the Under-17’s side reach their first ever Euro finals held in Hungary this May.
Pod 56: Rhagolwg Rhyngwladol: Croatia a Latfia
Wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Ewro 2024 yn Yr Almaen, Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy’n taro golwg ar eu gwrthwynebwyr cyntaf Croatia a Latfia ac edrych ymlaen at bennodd newydd yn hanes y tîm cenedlaethol.
As Wales embark on their campaign to reach Euro 2024 in Germany, Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym take a look at their first opponents Croatia and Latvia and look forward to a new chapter in Rob Page’s story.
Pod 55: Cyhoeddi Carfan Cymru
Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym sy’n Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan er mwyn clywed Rob Page yn cyhoeddi’r garfan bydd yn cystadlu yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024 yn erbyn Croatia a Latfia.
Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are at Saint Fagan’s National Museum of History to hear Rob Page announce his squad that will be facing Croatia and Latvia later this month in the Euro 2024 Qualifiers.
Pod 54: Cwpan Cymru o Barc Waun Dew
Pod bach yn wahanol yr wythnos hon wrth Ifan Gwilym droedio Parc Waun Dew, Caerfyrddin i drafod gemau rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru gyda rhai o leisiau cyfarwydd Sgorio! Cyfle hefyd am sgwrs Cymru ‘C’ gyda’r rheolwr Mark Jones.
A pod with a bit of a difference this week as Ifan Gwilym wonders Richmond Park in Carmarthen talking all things Welsh Cup semi finals with some familiar voices to Sgorio viewers. There’s also a chat with Cymru ‘C’ manager Mark Jones ahead of their clash with England ‘C’ in a fortnight.
From the publisher's feed

69 Listeners

7 Listeners

2,549 Listeners

267 Listeners

1,013 Listeners

33 Listeners

1 Listeners

125 Listeners

36 Listeners

63 Listeners

2 Listeners