"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George.
Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref, fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno.
Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.
Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo’i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau.
Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri’n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri’n gweithio’n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion.
Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.