Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George.
Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama.
Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.
Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri ‘sgrifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda’r North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am fis a hithau ‘mond yn 19 oed.
Mae Ceri wedi gweithio ar raglenni teledu am Brexit, Donald Trump a Facebook, ac yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mharis yn 2015 bu’n gweithio ar raglen yn edrych ar derfysgaeth yn Ewrop a’r achos o derfysgaeth yn Christchurch, Seland Newydd yn 2019. Bu hefyd yn gweithio ar raglen Panorama lle gofynnwyd iddi a fyddai'n fodlon mynd “undercover” i weithio mewn cartref henoed yn Llundain.