Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024


Listen Later

Pigion y Dysgwyr – Francesca

Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad?

Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon!
Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil...

(Y)stumiau Gestures

Ymchwil Research

Ystrydebol Cliched

Ymwybodol Aware

Sylwi To notice

Hunaniaeth Identity

Am wn i I suppose

Mynegi To express

Lleisiau Voices

Barn An opinion

Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes

Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?

Llonydd Still

Diflas Boring

Milwrol Military

Agweddau Aspects

Yn ddiweddar Recently

Pori To browse

Taro To strike

Cymhleth Complicated

Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit

Ysgolheictod Scholarship

Astrus Obscure

Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw

Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi.

Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau.
Moethus Luxurious

Cyflwynydd Presenter

Darganfod To discover

Anhygoel Incredible

Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd

Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel!

Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth...
Rhyngwladol International

Suddo To sink

Alla i ddychmygu I can imagine

Profiadau Experiences

Canlyniad Result

Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio

A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife!

Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...

Buddugoliaeth Win

Cyfieithydd Translator

Peryglus Dangerous

Ffon Stick

Pigion y Dysgwyr – RNLI

Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e?

Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI..

Dau ganmlwyddiant Bicentenary

Bad achub Lifeboat

Ymuno â To join

Rhiant Parent

Mewn cysylltiad â In contract with

Hyfforddiant Training

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,685 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,433 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,791 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,794 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,100 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,117 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,923 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,083 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

267 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

82 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

345 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

118 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

110 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

140 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

286 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,178 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,185 Listeners

Americast by BBC News

Americast

736 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,023 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,199 Listeners