Clera

Clera

By CleraArts
Download on the App Store

Clera episodes

  • Clera Tachwedd 2025
    Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd mas am dro a theimlo'r oerfel ar eich wyneb a gwres yn eich clustiau!
    Cawn ddwy sgwrs ddifyr a swmpus yng nghwmni Prifardd Coron Eisteddfod genedlaqethol Wrecsam, Owain Rhys. A hefyd cawn gwmni'r prifardd a'r cyn-Archerwydd Jim Parc Nest. Gan taw dyma'r bennod hiraf erioed o Clera, mae nodiadau amseru isod. Hyn, hanes Gŵyl Gerallt a llawer mwy!
    Cyflwyniad
    28:59 - Y Delicasi gan Dylan (Y Prifardd Tudur Dylan)
    31:46 - Pwnco Holi'r Prifardd Owain Rhys
    1:05:38 - Cerdd yr Orffwysfa / Yr Orffwysgerdd - Y Prifardd Idris Reynolds
    1:11:46 - Sgwrs gyda'r Cyn-Archdderwydd a'r prifardd Jim parc Nest
    1:49:22 - Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis gyda Gruffudd Antur
    2:10:25 - Y Newyddion Heddiw
    2 hr 24 min
  • Clera Hydref 2025
    Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Yn y rhifyn hwn byddwn ni'n dathlu bywyd a gwaith Dic yr Hendre wrth inni fynd ar daith o gwmpas cynefin y Prifardd ac Archdderwydd o Flaenannerch. Cawn hefyd orffwysgerdd gan Tomos Rees a Diweddgan gan Sioned Erin Hughes o'i chyfrol newydd.
    1 hr 23 min
  • Clera Medi 2025
    Croeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn Eckley o'i gyfrol newydd, 'Trochi (Gwasg Carreg Gwalch) yn ogystal â'r Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy.
    1 hr 26 min
  • Clera Awst 2025
    Croeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
    Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn y gornel las ac Yr Islwyn yn Ymryson y Beirdd, Gruffudd Antur yn ei wynebu yn y gornel goch!
    44 min
  • Clera Gorffennaf 2025
    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a llawer mwy o'r perlau a'r dwli arferol!
    Diolch i Llŷr Gwyn am y llun sydd ar y clawr.
    1 hr 37 min
  • Clera Mehefin 2025
    Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd!
    Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn ddiweddar gan Meirion Jones o Bentre-cwrt, pentre genediol T Llew Jones lle bu taith dywys yn olrhain ei lwybrau.
    Cawn hefyd orffwysgerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths a Diweddgan o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones.
    Hefyd, cawn glywed gan fwy o feirdd categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Sioned Erin hughes a Meleri Davies.
    Hyn oll, a mwy!!! Mwynhewch, rhannwch, barddonwch.
    1 hr 38 min
  • Clera Mai 2025
    Duw gwyddiad mae da gweddai
    Dechreuad mwyn dyfiad Mai.
    Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, y pwnco a llawer llawer mwy!
    Diolch hefyd i Tudur Dylan Jones a'i awyren am y llun bendigedig ar glawr y bennod.
    1 hr 22 min
  • Clera Ebrill 2025
    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad.
    Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!
    1 hr 24 min

About Clera

From the publisher's feed

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

More shows like Clera

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

77 Listeners

Gwleidydda by BBC Radio Cymru

Gwleidydda

6 Listeners

Beti a'i Phobol by BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

2 Listeners

Elis James and John Robins by Significant Productions

Elis James and John Robins

309 Listeners

Y Coridor Ansicrwydd by BBC Radio Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

1 Listeners

Walescast by BBC Radio Wales

Walescast

4 Listeners

Colli'r Plot by Y Pod Cyf

Colli'r Plot

1 Listeners

Three Bean Salad by Three Bean Salad

Three Bean Salad

517 Listeners

Yr Hen Iaith by Mimosa Cymru

Yr Hen Iaith

1 Listeners

Rhaglen Cymru by andybmedia

Rhaglen Cymru

0 Listeners