Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)... more
January 25, 2023Clera Ionawr 2023Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen.Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd....more1h 15minPlay
December 18, 2022Clera Rhagfyr 2022Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James.Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn....more1h 17minPlay
November 30, 2022Clera Tachwedd 2022Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch...more1h 35minPlay
October 31, 2022Clera Hydref 2022Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor.Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'....more1hPlay
September 29, 2022Clera Medi 2022Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans....more1h 24minPlay
August 07, 2022Clera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig....more1h 10minPlay
July 29, 2022Clera Gorffennaf 2022Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy....more1h 7minPlay
June 29, 2022Clera Mehefin 2022Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch....more1h 35minPlay
May 25, 2022Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch...more1h 21minPlay
April 28, 2022Clera Ebrill 2022Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng Nghaerfyrddin. Ifor ap Glyn sy'n trafod ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru, 'Sudoku Iaith' ac Emyr 'Y Graig' Davies sy'n cynnig Gorffwysgerdd i ddiolch am Sgwîdji! Hyn, a llawer iawn mwy, heb anghofio cerdd yn Almaeneg gan Dani Schlick....more1h 24minPlay