Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)... more
April 29, 2021Clera Ebrill 2021Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hyn cawn gwmni'r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan ac Ifor ap Glyn ac fe gawn sgwrs gyda Phrifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.Hyn a chymaint mwy,mwynhewch!...more1h 31minPlay
March 27, 2021Clera Mawrth 2021Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad mwyaf barddol y byd. Yn ogystal â chlywed am dwf garlleg Eurig cawn sgwrs gyda’r Arthro-Brifardd Tudur Hallam am ddehongliad R.M. ‘Bobi’ Jones o’r gynghanedd. Cawn orffwysgerdd o gywydd hyfryd gan Les Barker a bydd y Posfeistr, Gruffudd Antur, nid yn unig yn cynnig atebion i’r poas diwethaf ac yn gosod pos newydd ond mi fydd e hefyd yn cynnig eitem newydd inni sef ‘Gruffudd a’i Lawysgriffau’. Hyn a mwy! Mwynhewch....more1h 28minPlay
March 01, 2021Talwrn Y Beirdd IfancYr Ornest Goll. Tarfodd y pandemig ar yr ornest hon ac felly, trwy gyfrwng technoleg, casglwyd y cyfraniadau gan y beirdd a'r beirniadaethau gan Ceri Wyn y Meuryn, ynghyd er mwyn ichi allu mwynhau'r ornest ddifyr hon rhwng y timau canlynol:Piwmas y Preseli v Llwyngod Llangefni v Ceiliogod Glan Clwyd...more59minPlay
February 24, 2021Clera Chwefror 2021Croeso i bennod fawr y mis bach. Y tro hwn cawn gw,mni Bardd Plant Cymru, gruffudd Eifion Owen, yn ogystal a'n Posfeistr hollwybodus. Cerdd arbennig ac egsliwsif yn yr orffwysfa gan Rufus Mufasa. Eitem bryfoclyd am y gynghanedd gan Simon Chandler a rhagflas o traglen arbennig fydd gan Clera ar eich cyfer sef y Talwrn Ifanc....more1h 22minPlay
January 30, 2021Clera Ionawr 2021Blwyddyn newydd gaeth i chi gyd! Cawn gwmni ein Posfeistr hollwybodus, Gruffudd Antur, drwy gydol y bennod hon o Clera. Yn ogystal a hynny, cawn gerdd gan Megan Haf Davies, bardd ifanc o Rydaman a'r bardd sydd yn y bath y tro hwn yw'r Prifardd Osian Rhys Jones....more1h 19minPlay
December 20, 2020Clera Rhagfyr 2020Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem....more1h 27minPlay
November 28, 2020Clera Tachwedd 2020Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch....more1h 32minPlay
October 29, 2020Clera Hydref 2020Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch...more1h 9minPlay
September 30, 2020Clera Medi 2020Croeso i bennod mis Medi o bodlediad Clera. Yn y bennod hon cawn gerdd o gyfrol newydd sbon Casia Wiliam, 'Eiliad ac Einioes' (Cyhoeddiadau Barddas), fe glywn gan Alaw Griffiths sy'n dechrau swydd newydd fel Cydlynydd Barddas ac fe gawn hefyd y pos gan yr hollwybodus Bosfeistr, Gruffudd Antur a Phwnco am Huw Morys a beirdd 'y dirywiad', gan holi ydy'r cyfnod modern cynnar o ran y traddodiad barddol wir yn gyfnod o ddirywio?...more1h 17minPlay
August 25, 2020Clera Awst - Gemau a GiamocsPennod arbennig o'r Babell Lên AmGen. Recordiwyd hon ar Zoom gyda'n gwesteion arbennig Llio Maddocks, Elinor Wyn Reynolds, Ani Llŷn a Gruffudd Antur. Cawn drafodaeth bwnco ar gyhoeddi answyddogol, gorffwysgerdd arbennig gan Llio Maddocks, pos difyr gan Gruff a gemau a giamocs i gloi.(Maddeuwch y brychau bychain o ran sain)...more56minPlay