Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021


Listen Later

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Steffan Cennydd

Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma

Mwya llwyddiannus - Most successful

Golygfa - Scene

Gyferbyn â - Opposite to

Mae’n fyd enwog - He’s world famous

Egni - Energy

Rhwydd - Hawdd

Derwen - Oak

Marian Brosschot

Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith…

Iseldireg - Dutch

Daneg - Danish

Ystyr dyfnach - A deeper meaning

Arwynebol - Superficial

Llythrennol - Literal

Trwytho - To saturate

Dywediadau - Sayings

Chdi - Ti

Wsos - Wythnos

Ynganiad - Pronunciation

Am w’n i - As far as I know

Jonathan Simcock

Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo…

Ymdopi - To cope

Arferol - Usual

Tu hwnt - Beyond

Ymhlith - Amongst

Alltud - Exiled

Cerdd - Poem

Offeryn - Instrument

Cymunedol - Community

Llawen - Merry

Llion Thomas

Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener…

Dallt - Deall

Sillafu - To spell

Cawn ni weld - We’ll see

Aballu - And so on

Gwenith Evans

Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig…

Ffodus - Fortunate

Eitha clou - Quite quickly

Llond llaw - Handful

Dihunais i - Wnes i ddeffro

Rhyddid - Freedom

Ffaelu - Methu

Sa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵr

Aeron Pughe

Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e…

Drygioni - Mischief

Gwas priodas - Best man

Cwmpodd y goeden - The tree fell

Llanast - Mess

Budreddi - Dirt

Yn enedigol o - A native of

Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep

Traddodiad - Tradition

Rhaffau - Ropes

Groes yr heol - Ar draws y ffordd

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,709 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,046 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,428 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,806 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,797 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,072 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

250 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,931 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,064 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

268 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

84 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

346 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

120 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

107 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

141 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

291 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,174 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,192 Listeners

Americast by BBC News

Americast

740 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,046 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,170 Listeners