Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021


Listen Later

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

DROS GINIO

Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi’n sôn am sut oedd hi’n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au.

Gohebydd - Correspondent

Rhyfel - War

Sbïo - Edrych

Darbwyllo - To convince

Cyflawni - To achieve

Y fyddin - The army

Anghyfarwydd - Unfamiliar

Cydbwyso - Balancing

Dychrynllyd - Terrifying

Ergyd - A shot

STIWDIO

Lleisiau Betsan Powys a rhai o’r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan’na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni’r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o’r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio’r byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi’n fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo’i chyhoeddi. Dyma Menna’n egluro pam.....

Athro - Professor

Cyfrol - A volume

Enwogion - Famous people

Hunangofiannol - Autobiographical

Dagrau pethau - The sadness of it

Amheuon - Suspicions

Sïon - Rumours

Mewn gwirionedd - In reality

SHAN COTHI

Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan’na gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy’n gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Shân Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o’r car mewn ‘drive through’...

Y fenyw ryfeddol - The amazing woman

Dala lan - To catch up

Sa i’n dreifio - Dw i ddim yn gyrru

Simsan - Unsteady

Crybwyll - To mention

Cwympo - Syrthio

Efrog Newydd - New York

Cludo - To transport

Cymeriadau - Characters

Dylanwadu - To influence

TROI’R TIR

A sôn am wyliau, sut fasech chi’n licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda’i merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a’r menter newydd.

Gosod - To rent out

Menter - Venture

Darn o dir - Piece of land

Clawdd - Wall

Golygfa - Scenery

Mo’yn - Eisiau

Unigryw - Unique

Canu gwlad - Country & Western

ALED HUGHES

...a phob lwc i’r ddwy yn eu menter newydd ond’ife? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e ‘n byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi’n ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod… Waw
Cwblhau - To complete

Talaith - State

Troedfeddi - Feet (measurement)

Seibiant - A respite

Corfforol - Physical

Gwthio - To push

Ddaru - Wnaeth

Twll dan grisiau - Cwtsh dan stâr

Anialwch - Desert

GERAINT LLOYD

Roedd hynny’n dipyn o gamp gan Micheal on’d oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs…

Dipyn o gamp - Quite an achievement

Ar bwys - Wrth ymyl

Amgueddfa - Museum

Yn gyffedinol - Generally

Yn beodol - Specifically

Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,696 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,432 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,795 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,773 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,072 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,120 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,928 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,058 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

268 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

84 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

342 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

120 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

102 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

140 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

296 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,173 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,193 Listeners

Americast by BBC News

Americast

740 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,038 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,173 Listeners