Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Pigion y Dysgwyr Hydref 30ain 2020


Listen Later

"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”

Beti George

Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti…

Ymdrech sylweddol - A substantial effort

Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment

Arbrofi - To experiment

Bron yn ddi-baid - Almost non-stop

Ymenydd - Brain

Cymhleth - Complex

Eitha hyblyg - Quite flexible

Dwys - Intense

Syfrdanol - Astounding

Cyflawni - To achieve

Ar y Marc

Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc…

Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer

Hyd yn hyn - Up to now

Awyrgylch - Atmosphere

Canlyniad - Result

Heulwen - Sunshine

Yr olygfa - The scene

Mo’yn - Eisiau

Yn ddiweddarach - Later on

Rownd derfynol - The final

Aled Hughes (Natalie Jones)

Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu…

Dinbych y Pysgod - Tenby

Hyfforddi - To train

Profiadau newydd - New experiences

Anweledig - Invisible

Hiliaeth - Racism

Bodoli - To exist

Parch a sylw - Respect and attention

Annhegwch - Unfairness

Balchder - Pride

Hunaniaeth - Identity

Bore Cothi

Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth...

Noeth - Naked

Ei dîn ma’s - His backside out

Y mannau iawn - The right places

Pipo ma’s - Peepimg out

Siglo chwerthin - Rolling with laughter

Y tywyllwch - The dark

Twlu - To throw

Hydrefol - Autumnal

Twym - Cynnes

Stiwdio

Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona...
Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc...

Agwedd - Attitude

Celf weledol - Visual art

Cyd-destun - Context

Ysbrydoliaeth - Inspiration

Lisa Gwilym

Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi.

Rhyddhau - To release

Yr ysfa i greu - The desire to create

Y dôn - The tune

Testun - Text

Carcharorion rhyfel - Prisoners of War

Anghredadwy - Unbelievable

Yr un egwyddor - The same principle

Gwersyll - Camp

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,696 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,432 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,795 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,773 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,072 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,120 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,928 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,058 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

268 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

84 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

342 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

120 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

102 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

140 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

296 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,173 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,193 Listeners

Americast by BBC News

Americast

740 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,038 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,173 Listeners