Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023


Listen Later

SHELLEY & RHYDIAN

Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed…

Y Fedal Ryddiaith The prose medal

Wedi gwirioni Over the moon

Braint Privilege

Enwebu To nominate

Rhestr fer Short list

Coelio Credu

Trosi To translate

Yn reddfol Instinctively

Addasu To adapt

Llenyddiaeth Literature

Hunaniaeth Identity

CLONC

Manon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd.

Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc...

Sy berchen Who owns

Yn sgil As a result of

Disgyrchiant Gravity

Wedi cythruddo Has angered

Atal To stop

Synau Sounds

Cael eu hystyried Being considered

Anferth Huge

Gwichian To squeak

Y diweddara The most recent

ALED HUGHES

Doniol iawn on’d ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru.

Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe’n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol...

Doniol Funny

Disgybl Pupil

Ysbrydoli To inspire

Cwblhau To complete

Y genhedlaeth nesa The next generation

Yn amlwg Obvious

Ewch amdani Go for it

ALED HUGHES

Wel dyna stori dda on’d ife? Yr athrawes a’r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i’r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi.

Bardd preswyl Resident poet

Deunydd Material

Diwylliant Culture

Arwynebol Superficial

Annog To encourage

Gafael weddol A reasonable grasp

Cenedl ddwyieithog A bilingual nation

Safbwynt Perspective

Pwyllgor Llen Literature committee

Gwaddol Residue

BORE COTHI

On’d yw hi’n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni?

Mae’r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha.
Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda’r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae’r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio.

Amaethyddiaeth Agriculture

Y Sioe Fawr The Royal Welsh

Dwlu Hoff iawn

Asiad y lleisiau The blend of the voices

Cyfarwyddiadau Instructions

Yn unigol Individually

Doniau Talents

Yndw Ydw

Droeon Many times

BORE COTHI

Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o’r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth.

Balch Proud

Ydy glei Of course it is

Golygfeydd godidog Superb views

Yn gyfarwydd Familiar

Cynnyrch Produce

Ffasiwn angerdd Such passion

Dieithr Unfamiliar

Beirniadu To judge

Annerch To address (a meeting)

BETI A’I PHOBOL

..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on’d yw e?

Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â’r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi’n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi’n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared...

Prif Weithredwr Chief Executive

Bant I ffwrdd

Mynychu To attend

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

14 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,683 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,044 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,425 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,785 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,797 Listeners

Learning English Conversations by BBC Radio

Learning English Conversations

1,098 Listeners

Friday Night Comedy from BBC Radio 4 by BBC Radio 4

Friday Night Comedy from BBC Radio 4

2,116 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,922 Listeners

Desert Island Discs by BBC Radio 4

Desert Island Discs

2,078 Listeners

The Food Programme by BBC Radio 4

The Food Programme

267 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

81 Listeners

Page 94: The Private Eye Podcast by Page 94: The Private Eye Podcast

Page 94: The Private Eye Podcast

338 Listeners

Not The Top 20 Podcast by Not The Top 20 Podcast

Not The Top 20 Podcast

117 Listeners

Political Thinking with Nick Robinson by BBC Radio 4

Political Thinking with Nick Robinson

108 Listeners

Folk on Foot by Matthew Bannister

Folk on Foot

67 Listeners

Sliced Bread by BBC Radio 4

Sliced Bread

141 Listeners

Full Disclosure with James O'Brien by Global

Full Disclosure with James O'Brien

284 Listeners

13 Minutes Presents: The Space Shuttle by BBC World Service

13 Minutes Presents: The Space Shuttle

4,177 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,188 Listeners

Americast by BBC News

Americast

728 Listeners

Sgwrsio by Nick Yeo

Sgwrsio

5 Listeners

Hefyd by Richard Nosworthy

Hefyd

2 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,024 Listeners

Sherlock & Co. by Goalhanger

Sherlock & Co.

1,196 Listeners