Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)... more
March 29, 2019Clera Mawrth 2019Trafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch....more1h 13minPlay
February 23, 2019Clera Chwefror 2019Croeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!...more1h 9minPlay
January 29, 2019Clera Ionawr 2019Blwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy....more1h 11minPlay
December 23, 2018Clera Rhagfyr 2018Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill....more1h 10minPlay
November 28, 2018Clera Tachwedd 2018Ym mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!...more1h 7minPlay
October 31, 2018Clera Hydref 2018Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!...more1h 7minPlay
September 20, 2018Medi 2018Dyma bennod gyntaf Clera ers i Nei ffoi i Lydaw a gadael i Eurig wynebu Brexit ar ei ben ei hun...ond tybed a fydd Eurig yn gorfod podledu ar ei ben ei hun yn ogystal...?Uchafbwynt arall y bennod yw sgwrs ddifyr gyda'r Prifardd Catrin Dafydd. Mwynhewch!...more54minPlay
August 17, 2018Clera Awst 2018Pennod fyw o’r Babell Lên gyda’n gwesteion arbennig, prifweithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, prifardd y Gadair Gruffudd Eifion Owen, y gomediwraig Beth Jones, ein posfeistr Gruffudd Antur a bardd yr orffwysfa y prifardd Rhys Iorwerth. Sgyrsiau, gemau a giamocs!...more49minPlay
July 17, 2018Clera Gorffennaf 2018Ffarwel i Ffostrasol! Dros y misoedd diwethaf bu Aneurig yn cwrdd yn Nhafarn Ffostrasol er mwyn recordio Clera. Gyda Nei yn mynd i fyw yn Llydaw am flwyddyn o fis Awst ymlaen, dyma'r cyfarfyddiad olaf yn Ffostrasol am sbel. Dyma, felly, bennod arbennig o Clera yn Nhafarn FFostrasol, yng nghwmni rhai o feirdd Tim Talwrn Ffostrasol, heb anghofio'r pos, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy....more1h 6minPlay
June 18, 2018Clera Mehefin 2018Pennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy...more51minPlay