Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)... more
February 17, 2018Clera Chwefror 2018Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am beth yw gwerth cerdd, yn sgil colofn ar y pwnc yn Barddas gan y prifardd Ceri Wyn Jones. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Gwyneth Lewis ac rydym hefyd yn adrodd hanes sioe farddol newydd Karen Owen, sef 7 Llais, heb son am lwyth o'r pethau difyr eraill sy'n arferol ar Clera.Diolch yn fawr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones am gael defnyddio ei lun o Karen Owen ar glawr y bennod hon....more58minPlay
January 18, 2018Ionawr 2018Croeso i bennod gynta'r flwyddyn o Clera o gynhesrwydd Tafarn Ffostrasol. Rydyn ni'n dechrau 2018 gydag armywiaeth o bethau barddol, difyr a geeky! Pwnco am y gynghanedd a sut i ateb aceniad estron rhai geiriau, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Cerdd Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs am ffurf yr Anterliwt a llawer mwy o'r eitemau arferol....more47minPlay
December 17, 2017Clera Rhagfyr 2017Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy....more54minPlay
November 24, 2017Clera Tachwedd 2017Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!...more1hPlay
October 01, 2017Clera Hydref 17Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!...more54minPlay
September 17, 2017Clera Medi 2017Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw....more47minPlay
August 16, 2017Clera Awst o'r Babell LênPennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra....more46minPlay
July 25, 2017Clera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr DolgellauPennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!...more44minPlay
June 26, 2017Clera MehefinPennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!...more48minPlay
May 15, 2017Clera Mai 2017Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!...more1h 3minPlay