Sign up to save your podcastsEmail addressPasswordRegisterOrContinue with GoogleAlready have an account? Log in here.
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)... more
October 31, 2019Clera Hydref 2019Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!...more55minPlay
September 28, 2019Clera Medi 2019Rhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn oll a mwy!...more1h 15minPlay
August 19, 2019Clera Yn Fyw o'r EisteddfodPennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr....more52minPlay
June 28, 2019Clera Mehefin 2018Sgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi.Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!...more1h 15minPlay
May 30, 2019Clera Mai 2019Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am y ffenomen hynod Gymraeg a Chymreig o ddiffyg teilyngdod mewn eisteddfodau. Cawn orffwysgerdd gan Judith Musker-Turner. Awn i Lydaw i drafod cynganeddu yn ...more1h 16minPlay
April 26, 2019Clera Ebrill 2019Croeso i bennod mis Ebrill o Clera! Y tro hyn rydyn ni'n dathlu pen-blwydd arbennig y prifardd-archdderwydd Jim Parc Nest, yn parhau i drafod y Stomp gyda rhai o drefnwyr y nosweithi poblogaidd dros y blynyddoedd, Ceri Anwen James a Leusa Llewelyn, ry'n ni hefyd yn fyw yn lansiad cyfrol y Prifardd Idris Reynolds, yn cyfweld a chynganeddwr o Sheffield yn Llydaw sef Felix Parker Price, y pos a llawer mwy!...more1h 13minPlay
March 29, 2019Clera Mawrth 2019Trafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch....more1h 13minPlay
February 23, 2019Clera Chwefror 2019Croeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!...more1h 9minPlay
January 29, 2019Clera Ionawr 2019Blwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy....more1h 11minPlay