Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.


Listen Later

Ar Blât – Elinor Snowsill

Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?

Cyn-chwaraewr Former player

Rysetiau Recipes
Atgofion Memories
Gwrthod To refuse
Cytbwys Balanced
Adnabyddus Famous
Wastad Always

Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus

Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc!

Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi …
Diffyg Lack of
Cyflwr Condition
Coluddyn Bowel
Rheolaeth Control
Straen Stress
Croen Skin
Ar hap Randomly
Ailadroddus Repetitious
Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences
Cymryd yn ganiataol Taking for granted

Bore Cothi – Menna Williams

Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol.

Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen:
Tlws Trophy
Cyfraniad sylweddol A substantial contribution
Braint A privilege
Dirprwy Deputy
Cyfeilio To accompany (on piano)
Amyneddgar iawn Very patient
Llenni Curtains
Deuawd Duet
Pan ddaru o Pan wnaeth e
Ienga Ifanca
Anrhydedd An honour

Beti a’i Phobol – Shelley Rees

A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio?
Cyflwynydd Presenter
Sefyll yn llonydd Standing still
Menywod Merched
Arallgyfeirio Diversify
Ymgyrchu To campaign
Egni Energy
Drygionus Naughty
Yn go glou Yn eitha cyflym
Mam-gu Nain
Taw Mai

Aled Hughes – Singapore

Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol.

Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes:
Pennaeth Head
Rhyfedd Strange
Rhyngwladol International
Wedi ei leoli Located
Diwylliannol Cultural
Hap a damwain Luck
Denu To attract
Ymddiried To trust
Cystadleuol Competitive

Dros Ginio – Llyfrau

Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife?

Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn:
Clawr Cover
Crynhoi cynnwys To summarise the content
Cyfrolau Books
Adolygiadau Review
Yn ei chrynswth In its entirety
Drwgdybus Suspicious
Yn hytrach na Rather than
Bod dynol Human being
Bygythiad Threat
Annog To encourage
Agor cil y drws To open the door slightly

...more
View all episodesView all episodes
Download on the App Store

Y Podlediad Dysgu CymraegBy BBC Radio Cymru

  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7
  • 4.7

4.7

15 ratings


More shows like Y Podlediad Dysgu Cymraeg

View all
Global News Podcast by BBC World Service

Global News Podcast

7,821 Listeners

The Archers by BBC Radio 4

The Archers

1,089 Listeners

More or Less by BBC Radio 4

More or Less

874 Listeners

Newshour by BBC World Service

Newshour

1,062 Listeners

In Our Time by BBC Radio 4

In Our Time

5,525 Listeners

The Documentary Podcast by BBC World Service

The Documentary Podcast

1,797 Listeners

6 Minute English by BBC Radio

6 Minute English

1,807 Listeners

The Infinite Monkey Cage by BBC Radio 4

The Infinite Monkey Cage

1,954 Listeners

Scrum V by BBC Radio Wales

Scrum V

104 Listeners

BBC Inside Science by BBC Radio 4

BBC Inside Science

412 Listeners

Newscast by BBC News

Newscast

746 Listeners

Elis James and John Robins by BBC Radio 5 Live

Elis James and John Robins

330 Listeners

You're Dead to Me by BBC Radio 4

You're Dead to Me

3,212 Listeners

Americast by BBC News

Americast

773 Listeners

The Socially Distant Sports Bar by Nata Media

The Socially Distant Sports Bar

131 Listeners

The Bomb by BBC World Service

The Bomb

1,026 Listeners

The Rest Is Politics by Goalhanger

The Rest Is Politics

3,773 Listeners

ZOE Science & Nutrition by ZOE

ZOE Science & Nutrition

2,134 Listeners

The News Agents by Global

The News Agents

1,261 Listeners

The Rest Is Politics: Leading by Goalhanger

The Rest Is Politics: Leading

831 Listeners

The News Agents - USA by Global

The News Agents - USA

394 Listeners

Radical with Amol Rajan by BBC Radio 4

Radical with Amol Rajan

46 Listeners

The Rest Is Politics: US by Goalhanger

The Rest Is Politics: US

2,476 Listeners

Lleisiau Cymru by BBC Radio Cymru

Lleisiau Cymru

0 Listeners

Learn Welsh Fast Podcast by Learn Welsh Fast

Learn Welsh Fast Podcast

0 Listeners