01.	Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed
Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. 
Cnocell y Coed					Woodpecker
Creaduriaid					Creatures
Nythu						To nest
Ymddangos					To appear
Rhyfedd iawn					Very strange
Onglau						Angles
Madfall						Lizard
Neidr						Snake
Hardd						Pretty
Rhyfeddu					       To marvel			
Anarferol					      Unusual
02.	Aled Hughes - Hayley Thomas
Llawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n  gweithio fel swyddog  gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mamau yn ardal  Port Talbot ac Afan . Pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusen fel Thrive? Dyma Hayley yn esbonio…
Esbonio						To explain
Profiadau					Experiences
Cam-drin					Abuse
Canolbwyntio					To concentrate
Diogelwch					Safety
Cyfleoedd					Opportunities
Lloches						Refuge
 Dychryn					        To frighten
03.	Radio Cymru 2 – Strictly
Hayley Thomas oedd honna yn siarad am pa mor bwysig ydy  arian Plant Mewn Angen i elusennau fel Thrive. Bob wythnos ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones yn dal i fyny gyda Meg Neal, i sôn am beth sy’n digwydd yn Strictly. Roedd rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd wythnos diwetha a dyma Meg yn rhoi’r hanes i ni… 
Hudolus					Magical		
Byddar						Deaf
Egnïol						Energetic
Ddim cystal					Not so good
Meddwl y byd o’i gilydd				Think the world of each other
04.	Beti a'i Phobol - Steffan Huws
Hanes Strictly yn fan’na gan Meg a Caryl. Mae Steffan Huws, gwestai Beti George wythnos diwetha, wedi cael bywyd diddorol iawn. Mae Steffan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n rhedeg busnes coffi Poblado, yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Treuliodd Steffan lawer o amser yn byw ac yn gweithio dramor yn Taiwan ac yn Columbia yn ne America. Yn y clip nesa, mae Steffan yn sôn wrth Beti am y tro cynta iddo fe fentro dramor....
Alldaith						Expedition
Cronfa						Fund
Trobwynt					Turning point
Yng nghanol nunlle				In the middle of nowhere
Anferth						Huge
Datblygiad personol				Personal development
Dilornus					Disparaging
Meddylfryd					Mindset
05.	Lisa Gwilym - Kizzy Crawford
Steffan Huws oedd hwnna’n sôn am ei brofiad yn mynd ar alldaith dramor am y tro cynta. Ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher roedd Kizzy Crawford yn sgwrsio am ei halbwm newydd ‘Rhydd’. Hi sgwennodd holl ganeuon yr albwm a hi chwaraeodd pob offeryn arno hefyd. Ac yn ogystal hi wnaeth gynhyrchu’r albwm mewn stiwdio yn ei chartref yn Aberfan
Offeryn						Instrument
Cynhyrchu					To produce
Cyfrannu					To contribute
Hyder						Confidence
Mae gen i gof					I have a recollection
Wedi gwirioni					Wedi dwlu ar
Rhyddhau					To release
06.	Sioeau Cerdd Steffan
..ac arhoswn ni gyda cherddoriaeth yn y clip nesa, ond cerddoriaeth o sioeau cerdd y tro ‘ma. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Steffan Rhys Hughes wythnos diwetha gyda un o sêr y West End, Samuel Wyn-Morris, sy'n sôn am ei brofiadau'n perfformio yn y sioe gerdd Les Miserables.
Sioeau cerdd					Musicals
Diwydiant					Industry
Ddim yn fêl i gyd				Not a bed of roses
Becso						Poeni
Camu ar lwyfan					To step on to a stage
Bwrw mlaen					Get on with it
Dwlen ni					          Baswn i wrth fy modd