S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
LISA ANGHARAD
Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl  cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae’n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o’r hanesion rannodd e am ei wyliau....
Cyflwynydd				Presenter
Mam-gu					Nain
Mo’yn					Eisiau
Cnoi						Brathu 
Anghyfarwydd				Unfamiliar
CARYL AC ALUN 
Sion Thomas Owen  oedd hwnna’n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma.  Mae’n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi’n dewis ei hoff rai... 
Mae’n debyg	                        Apparently
STIWDIO
Dych chi’n cytuno gyda dewis Mirain? Mae’n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio’n hyfryd! Mae Oriel Môn, oriel gelf ger Llangefni ar Ynys Môn, yn 30 oed eleni ac i nodi’r penblwydd hwnnw cafodd Nia Roberts sgwrs gydag artist o Fôn, Iwan Gwyn Parry, ar Stiwdio nos Lun. Cafodd yr oriel ei hagor yn wreiddiol er mwyn dangos gwaith yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, ac mae Iwan yn cofio gweld Tunnicliffe wrth ei waith pan oedd Iwan yn blentyn bach. Pa effaith cafodd hynny ar ei yrfa fel artist tybed...?
Oriel gelf					Art gallery
Cyffredin					Common
Ymwybodol				Aware
Dylanwad				Influence
Trobwynt					Turning point
Isymwybod				Sub-conscious
Efelychu					To emulate
Esblygu					To evolve
Unigryw					Unique
Ewyllys					Will
Cenhedlaeth				Generation
MOEL
Mae Iwan Gwyn Parri wir yn gobeithio bydd e’n berchen ar y darlun hwnnw rywdro on’d yw e? Mae gan Aled Hughes bodlediad gwych o’r enw Moel sy’n trafod  pob math o bynciau gwahanol  - a’r tro hwn, Ffilmiau Mawr Hollywood oedd yn cael sylw ac yn y clip hwn mae’n trafod ‘Gone with The Wind’... 
Moel					Bald
Oedi					To delay
Dal allan					Caught out
Heb ‘di					Ddim wedi
Anhygoel					Incredible
Ail-adeiladu				To rebuild
Enfawr					Huge
Y meddylfryd				Mentality
SARA GIBSON
Ac o bodlediad ‘Moel’ i glip sy’n sôn am steiliau gwallt. Sara Gibson oedd yn cyflwyno rhaglen Aled ar Radio Cymru wythnos diwetha a chafodd hi air gyda’r barbwr Jason Parry o Gaernarfon am ddylanwad pêl-droedwyr ar ffasiwn gwallt dynion.
Enghraifft					Example
Yn gyffredinol				Generally
Ers talwm				In the past
Poblogaidd				Popular
Be ddiawl...?				What on earth...?
SIOE FAWR SHAN
Ie, diddorol on’d ife - dw i’n siŵr eich bod yn cofio i lawer o blant ifanc Cymru liwio eu gwalltiau yn wyn er mwyn efelychu Aaron Ramsey pan oedd yn chwarae i Gymru yn Euros 2016. Roedd y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol,  ar ffurf wahanol eleni – ac er nad oedd posib mynd i Lanelwedd i fwynhau’r Sioe, roedd digon o adloniant amaethyddol yn digwydd, ac yn cael ei rannu ar Radio Cymru.  A dyw’r sioe ddim yn sioe heb Shan Cothi nac yw? Dyma ran o sgwrs Shan gyda Melanie Owen am… beth arall… ond ceffylau!! 
Y Sioe Frenhinol			The Royal (Welsh) Show
Amaethyddol				Agricultural
Tanio diddordeb			To spark an interest
Tanllyd					Fiery
Ymddiried ynddyn nhw		Trust in them
Hyblyg					Flexible
Y sylw					The attention
Pencampwriaethau			Championships
Pedoli					To shoe
Berwedig					Boiling
Prydferth					Beautiful